Leigh Halfpenny i gychwyn yn erbyn Lloegr

Gwenan Newyddion

Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi enwi’r tîm i chwarae yn erbyn Lloegr ar Ddydd Sadwrn 25 o Chwefror (CG 4:45yp yn fyw ar BBC a S4C.)

Bydd y capten Ken Owens yn arwain mas yr ochr i dorf wedi’i werthu allan yn stadiwm y Principality am y drydedd rownd o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad 2023.

Yn ymuno â Ken yn y XV i ddechrau mae Leigh Halfpenny sydd wedi’i enwi fel cefnwr ar ôl gwella o anaf a wnaeth ei orfodu i dynnu allan o’r gêm yn erbyn yr Alban pythefnos yn ôl.

Mae mewnwr y Scarlets Kieran Hardy wedi’i enwi ar y fainc fel eilydd

Dywedodd prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland: “Y neges i’r chwaraewyr oedd i geisio dodi’r hyn sydd wedi digwydd i un ochr a chanolbwyntio ar yr rygbi. Rydym yn ymwybodol o’r hanes rhwng Cymru a Lloegr, a beth mae hynny’n golygu i Gymry felly mae rhaid i ni fynd mas a rhoi perfformiad da. “I’r ddau dîm mae hyn yn gêm enfawr wrth i fuddugoliaeth ar Ddydd Sadwrn ein helpu i arwain at y trywydd iawn. I Lloegr mae’n gêm fawr wrth iddyn nhw edrych ar y ddau gêm olaf sy’n her fawr iddyn nhw, felly mae’n foment fawr yn y gystadleuaeth.”

Tîm Cymru i wynebu Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2023, Dydd Sadwrn 25 Chwefror CG 4.45yp. Yn fyw ar BBC a S4C. 15. Leigh Halfpenny (Scarlets – 97 caps)14. Josh Adams (Cardiff Rugby – 46 caps)
13. Mason Grady (Cardiff Rugby – uncapped)
12. Joe Hawkins (Ospreys – 3 caps)
11. Louis Rees-Zammit (Gloucester Rugby – 22 caps)
10. Owen Williams (Ospreys – 4 caps)
9. Tomos Williams (Cardiff Rugby – 42 caps)
1. Gareth Thomas (Ospreys – 18 caps)
2. Ken Owens (Scarlets – 88 caps) captain
3. Tomas Francis (Ospreys – 68 caps)
4. Adam Beard (Ospreys – 43 caps)
5. Alun Wyn Jones (Ospreys – 156 caps)
6. Christ Tshiunza (Exeter Chiefs – 4 caps)
7. Justin Tipuric (Ospreys – 90 caps)
8. Taulupe Faletau (Cardiff Rugby – 97 caps)

Replacements
16. Bradley Roberts (Dragons – 3 caps)
17. Rhys Carre (Cardiff Rugby – 19 caps)
18. Dillon Lewis (Cardiff Rugby – 47 caps)
19. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs – 3 caps)
20. Tommy Reffell (Leicester Tigers – 6 caps)
21. Kieran Hardy (Scarlets – 16 caps)
22. Dan Biggar (Toulon – 105 caps)
23. Nick Tompkins (Saracens – 25 caps)