Mae’r Scarlets yn cadarnhau bydd Liam Williams yn gadael y Scarlets ar ddiwedd tymor 2021-22 ac yn ymuno â Rygbi Caerdydd.
Ar hyn o bryd mae Liam yng nghanol ei ail dymor o’i ail gytundeb gyda’r Scarlets yn dilyn ei ddychweliad o’r Saracens.
Ar y cyfan, mae’r Llew a chwaraewr rhyngwladol 30 oed wedi chwarae 111 o gemau i’r clwb – gan gynnwys y fuddugoliaeth am deitl PRO12 Guinness – rhwng 2011 a 2017 ac wedi ymddangos pedair o weithiau ers ei ddychweliad.
Dywedodd rheolwr cyffredinol rygbi’r Scarlets Jon Daniels: “Rydym yn parchu ei benderfyniad ac yn gwybod bydd yn rhoi ei gorau glas i grys y Scarlets am weddill yr ymgyrch.
“Fe wnaeth Liam ei ymddangosiad cyntaf 11 mlynedd yn ôl ac roedd yn rhan o’r ochr enillodd y Bencampwriaeth yn 2017. Rwy’n siŵr bydd ein cefnogwyr yn ei gofio fel Scarlet arbennig ac yn ei gefnogi ef a’r garfan am weddill y tymor.”
Dywedodd Liam: “Roedd y penderfyniad yn un anodd iawn i wneud. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Scarlets am roi cymaint o gyfleoedd i mi ac fe wnâi barhau i roi fy ngorau glas am weddill fy amser yma.”