Bydd Parc y Scarlets, Llanelli a Stadiwm Dinas Caerdydd yn cynnal gemau agoriadol Cymru yn ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd Merched FIFA 2023.
Bydd carfan Gemma Grainger yn dechrau’r ymgyrch ym Mharc y Scarlets yn erbyn Kazakhstan ar ddydd Gwener 17 o Fedi. Fis yn ddiweddarach, bydd Cymru yn wynebu Estonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Mawrth 26 o Hydref cyn dychwelyd i Barc y Scarlets i wynebu Groeg ar ddydd Gwener 26 o Dachwedd. Bydd y tair gêm yn cychwyn am 19:15.
Gall cefnogwyr archebu tocynnau ar gyfer y gêm agoriadol yn erbyn Kazakhstan o ddydd Llun 23 o Awst ar http://faw.cymru/tickets. O ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth Cymru i symud mewn i Lefel Rhybudd 0, bydd y gemau yn cael eu cynnal o flaen torf llawn.
“Rwy’n hynod o gyffrous i ddechrau’r ymgyrch ac i reoli Cymru o flaen y Wal Goch am y tro cyntaf. Mae’n bwysig iawn i ni chwarae ledled Cymru er mwyn i bawb gael y cyfle i’n cefnogi.
Ry’ ni heb chwarae o flaen torf ers y fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Estonia y llynedd yn Wrecsam, ardal yr hoffem ni ymweld ag eto yn y dyfodol agos. Roedd torf o dros 2,000 o bobl yn y gêm ac rwy’n gobeithio bydd ein cefnogwyr yn Llanelli a Chaerdydd yn troi fyny mewn niferoedd tebyg i ddechrau’r ymgyrch ar nodyn uchel.” – Gemma Grainger