Llythyr agored i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru

Rob Lloyd Newyddion

Annwyl Prif Weinidog

Rydym yn ysgrifennu atoch fel swyddogion gweithredol ac uwch gynrychiolwyr rygbi, criced, rasio ceffylau a pêl-droed – y chwaraeon elitaidd yng Nghymru.

Mae chwaraeon yn rhan hanfodol o fywyd yng Nghymru. Mae’n rhoi ein cenedl ar lwyfan byd-eang ac yn rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i gymunedau ledled Cymru. Rydym yn rhan o ddiwydiant sy’n cyflogi miloedd o bobl ledled y wlad, mae ein cyfraniad i economi, cyflogaeth a lles yng Nghymru yn sylweddol, ond mae hyn bellach mewn perygl.

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ailfeddwl cynllun dychweliad cefnogwyr i leoliadau chwaraeon gan ddefnyddio canllawiau a gyhoeddwyd gan Sports Ground Safety Authority (SGSA) sydd yn cael ei adnabod fel “SGO2” a tynnu’n ôl “SG02W” sydd wedi’i ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru.

Ar ddydd Llun, Tachwedd 30ain, cynhaliwyd cyfarfod yn Stadiwm Dinas Caerdydd i ystyried y dychweliad o bell i gefnogwyr. Roedd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, URC, FAW, rhanbarthau Cymraeg, Criced Glamorgan, rasio ceffylau a clybiau proffesiynol Cymru yn bresennol ynghyd cynrychiolwyr o’r SGSA, EFL a SAG.

Nodiwyd yn y cyfarfod am gyhoeddiad canllawiau’r SGSA sydd yn cael ei adnabod fel SGo2, sydd yn ffocysu ar bellter cymdeithasol o un medr. Cafodd y canllawiau SGo2 ei gyhoeddi yn dilyn ymgynghoriad helaeth, ac yn nodi cynlluniau manwl o ddychweliad cefnogwyr i stadia Saesneg o’r 2il o Ragfyr, ac wedi’i rhannu a gyda’r SGSA ac i wledydd ledled y byd.

Gan gymryd mwy o ofal, gofynnwyd Llywodraeth Cymru i baratoi fersiwn o’r SG02 sydd wedi’i seilio ar dwy fedr o bellter cymdeithasol. Mae drafft wedi’i dderbyn ond heb ei gyhoeddi. Rydym fel grwp o gyrff llywodraethu cenedlaethol ac uwch glybiau yn annog i’r drafft hwn gael ei dynnu’n ôl a bod llywodraeth Cymru hefyd yn cofleidio’r fersiwn SG02 uchel ei pharch, ac wedi hynny yn caniatáu i ddigwyddiadau prawf gael eu cynnal gan ddefnyddio’r canllaw hwn gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal cyn gynted â phosibl.

Rydym yn dweud hyn oherwydd er bod SG02 yn lleihau’r presenoldeb disgwyliedig i rhwng 25% a 35% o’r capasiti gan ddibynnu ar ddwysedd cyntedd a chynllun stadiwm. Byddai’r fersiwn Gymraeg yn lleihau capasiti ymhellach i lai na 10% ar lefel sydd i bob pwrpas yn cau ein busnesau i’r cyhoedd am gyfnod amhenodol.

Yn y cyfarfod, roedd pob sefydliad chwaraeon yn hynod siomedig oherwydd y diffyg ymgynghori ymlaen llaw ac roedd y sefyllfa gadarn a fabwysiadwyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfarfod yn ein gadael yn llawn pryder. Mae’r sefyllfa’n ddifrifol; mae diffyg cynllun clir ar gyfer dychwelyd gwylwyr yng Nghymru yn peri gwir risg methdaliad i’n chwaraeon.

Rydym yn parchu’r angen i ddychwelyd pan fydd yn ddiogel i wneud hynny ac yn cydnabod yr angen i ddilyn gwyddoniaeth, ond eto’n tynnu sylw at amharodrwydd Llywodraeth Cymru i edrych ar “ddatrysiad rheoledig a pheirianyddol” i’r sectorau manwerthu, adeiladu, trafnidiaeth a lletygarwch. Bydd SG02W yn rhwystr sylweddol gan nad yw’n cynnig ateb pragmatig na chynaliadwy i ni a chredir er mwyn symud ymlaen ei bod yn hanfodol cael dull tryloyw a chydweithredol gyda Llywodraeth Cymru wedi’i chyfuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd hyn yn sicrhau ein bod, ar y cyd, yn gallu cynhyrchu cynllun clir ar gyfer digwyddiadau prawf peilot ystyrlon a dychweliad diogel i gefnogwyr i feysydd a digwyddiadau chwaraeon.

Byddwch hefyd yn ymwybodol iawn bod cefnogwyr chwaraeon Cymru yn gwylio’r hyn sy’n digwydd dros y ffin. Dim ond nawr y gall y cynnwrf dros ddychweliad cefnogwyr i gefnogi eu clybiau a’u timau cenedlaethol barhau i gynyddu wrth i’r cyrff llywodraethu a’r clybiau chwaraeon ddioddef heb gyfarwyddyd na arweiniad mewn cyfnod pan mae eu cyllid yn dadfeilio o’u blaenau.

I genedl sy’n fach o ran maint, mae Cymru yn cystadlu gyda’r mawrion o ran chwaraeon; rydym am weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau goroesiad ein clybiau, busnesau a dyfodol chwaraeon yng Nghymru.

Felly, fel y dywedir ar ddechrau’r llythyr hwn, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i dynnu SG02W yn ôl a chofleidio canllawiau cyhoeddedig SGSA: SG02, ymrwymo i dryloywder ar wyddoniaeth a dull cydweithredol rhwng y cyrff chwaraeon, uwch glybiau, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn darparu cynllun clir ar gyfer digwyddiadau prawf ystyrlon a dychweliad diogel cefnogwyr i feysydd chwaraeon.

Steve Borley 

Executive Director – Cardiff City Football Club

I ac ar rhan

Steve Phillips – CEO, WRU

Jonathan Ford – CEO, FAW

Hugh Morris – CEO, Glamorgan Cricket Club

Julian Winter – CEO, Swansea City FC

Gavin Foxhall – Director of Operations, Newport County 

Mark Jones – Managing Director, Newport Gwent Dragons

Richard Holland – CEO, Cardiff Blues

Phillip Morgan – COO, Scarlets

Andrew Millward – Managing Director, Ospreys Rugby 

Phil Bell – Executive Director, Chepstow and Ffos Las Racecourse

Jeannie Chantler – General Manager, Bangor on Dee Races

Mark Williams – Executive Director, Wrexham FC

Todd Kelman – Managing Director, Cardiff Devils