“Mae awyrgylch gwych yma, mae’r chwaraewyr yn gweithio’n galed ac yn awyddus i wella”

Kieran Lewis Newyddion

Mae wythnos arall o hyfforddiant cyn-tymor ar ben i’r Scarlets gyda sesiwn ar dywod Parc Gwledig Pen-bre.

Tarodd y chwaraewyr y twyni tywod ar draeth bendigedig Cefn Sidan lle cafon nhw eu herio fel rhan o’u rhaglen gyflyru.

Cafon ni gyfle am sgwrs â Richard Whiffin, yr Hyfforddwr Ymosod Cynorthwyol, sydd wedi ymgartrefu ym mywyd y Scarlets ar ôl symud o Academi Caerloyw.

Ac ar ôl pythefnos dan heulwen haf Gorllewin Cymru (gan fwyaf!), sut mae’n ei fwynhau?

“Rydw i wedi mwynhau’n fawr, mae awyrgylch gwych yma,” meddai wrth wefan y Scarlets.

“Mae’r chwaraewyr yn awyddus i ddysgu, mae’r staff yn dda, rydw i wedi mwynhau gweithio gyda Iows (Cunningham) a Dai (Flanagan) yn yr ychydig wythnosau cyntaf ac yn amlwg wedi cyffroi i weithredu rhai pethau cyn i Glenn (Delaney) a Brad (Mooar) gyrraedd.

“Mae wedi bod yn braf imi ddod i mewn mor gynnar, er mwyn adeiladu perthynas gyda chwaraewyr a cheisio rhoi stamp ar bethau’n gynnar, gan wybod pan fydd Brad a Glenn yn cyrraedd yma, bydd y cyfan yn cynyddu i lefel arall.

“Yn sicr, mae gennym grŵp gwych o fechgyn sydd eisiau gweithio’n galed er mwyn ei gilydd ac eisiau gwella, gallwch weld hynny yn y ffordd y maent yn aros allan ar ôl sesiynau, gan weithio ac ymarfer yn unigol. Maent yn grŵp gwych i weithio gyda nhw.”

Roedd Whiffin yn aelod o dîm hyfforddi Dan-20 oed Lloegr yn y Pencampwriaethau Byd Iau yn yr Ariannin lle welodd rhai o’r talentau ifanc cyffrous yn dod i’r Scarlets, gyda saith chwaraewr yn rhengoedd Cymru.

“O safbwynt hyfforddi, roedd yn brofiad gwych, roedd yn bencampwriaeth anodd, yn hynod o ddwys, gyda chyflymder y gêm, natur y cyfnod o bedwar diwrnod,” ychwanegodd.

“Fe wnaethon ni chwarae’n erbyn Cymru yn y gêm olaf a chefais gyfle i gwrdd â bechgyn y Scarlets ac rwy’n edrych ymlaen at weld y bechgyn hynny’n cyrraedd yr wythnos nesaf a dechrau arni.”

Cyn iddo gyrraedd Llanelli, cafodd Whiffin aduniad gyda un o’i hen dimau, London Irish, a bydd y Scarlets yn eu hwynebu yng Nghwpan Her Ewrop 2019-20.

“Mae gen i lawer o ffrindiau da yn y clwb, roeddwn i yno am 12 mlynedd. Mae’n gyffrous bod yn ôl a chwarae yn eu herbyn a gweld yr hen ffrindiau hynny eto,” ychwanegodd.

Bydd y Scarlets yn cychwyn eu hymgyrch Guinness PRO14 2019-20 gartref yn erbyn Connacht, 28ain o Fedi.

Ymunwch â’r pac a phrynwch eich tocyn tymor ar ticket.scarlets.wales