“Mae’n bwysig i ni ddeall maint yr her,” Hughes

Menna Isaac Newyddion

Mae’r Guinness PRO14 yn ôl nos Wener gyda’r Scarlets yn wynebu’r Southern Kings yn ei cynefin yn Stadiwm Madibaz.

Wedi teithio i Dde Affrica dydd Llun mae’r Scarlets wedi cael amser i baratoi a do di arfer â’r amodau cyn gêm seithfed rownd y gystadleuaeth.

Fe fydd y Scarlets yn awyddus iawn i sicrhau Scarlets buddugoliaeth i adeiladu momentwm yn dilyn dwy golled siomedig yn yr ymgyrch Ewropeaidd. Gyda phump pwynt yn unig yn gwahanu’r Scarlets a Leinster sydd ar frig yr Adran byddai buddugoliaeth yn amserol i gadw pwysau ar y Gwyddelod.

Mae Benetton, Caeredin ac Ulster yn hafal ar 16 pwynt yn y trydydd safle a hwythau i gyd yn awyddus i symud i’r ail safle. Mae’r Kings, er gwaetha’r ffaith eu bod ar waelod yr adran, yn wrthwynebwyr peryglus ac maent wedi sicrhau buddugoliaeth dros arweinwyr adran A, Glasgow, yn barod y tymor hwn yn Stadiwm Madibaz.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd y capten Steff Hughes: “Mae’r paratoadau wedi mynd yn dda ac ry’n ni mewn lle da.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n deall maint yr her sydd o’n blaenau ni. Mae pawb yn paratoi’n dda ac ry’n ni’n edrych ymlaen at y gêm nos Wener. Ry’n ni wedi dysgu sawl gwers o’n hymweliad diwethaf ni.

“Mae’n gêm enfawr i ni. Mae’n bwysig ein bod ni’n perfformio’n dda ac yn dod oddi yma gyda’r fuddugoliaeth. Dy’n ni ddim fodd bynnag yn tanseilio’r her. Maent wedi dangos yn barod eleni pa mor anodd yw hi i ddod yma a chael buddugoliaeth.

“Ry’n ni fel grwp mewn lle da. Mae llawer o’r bois wedi bod yn chwarae gyda’i gilydd i dîm A, sydd wedi bod yn llwyddiannus, ac ry’n ni’n ymarfer gyda’n gilydd yn ddyddiol ac yn agos iawn.”

Southern Kings v Scarlets, Gwener 26ainHydref, CG 18:00 (DU).

Fe fydd y gêm yn fyw ar Premier Sports gyda diweddariadau byw ar ein tudalennau Facebook a Twitter.