“Mae’n cymryd tîm o bencampwyr i drechu tîm o bencampwyr,” Owens

Kieran Lewis Newyddion

Er gwaetha tri chais yn yr ail hanner gorffen yn ail wnaeth y Scarlets yn rownd derfynol Guinness PRO14 gyda Leinster yn codi’r tlws gan wneud y dwbwl ar ôl ennill CWpan Pencampwyr Ewrop ychydig o wythnosau’n ôl.

Roedd Leinster wedi mynd ar y blaen o 40-18 ond fe ddangosodd y Scarlets gymeriad arbennig i ddod yn ôl o fewn wyth pwynt ar ôl ail hanner da.

Mae’r capten Ken Owens yn credu bod y tîm wedi dangos lot o gymeriad yn ystod y tymor i gyrraedd y rownd derfynol ac mae’n credu bod y tîm wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf.

“Pedair blynedd yn ôl fe wnaethon ni ennill o drwch blewyn yn erbyn Treviso i sicrhau ein lle ni yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ac i ni nawr wedi cyrraedd rowndiau olaf Ewrop a’r bencampwriaeth.

“Fe wnaeth pobl gwestiynu os oedd ein buddugoliaeth ni y llynedd yn lwc; rwy’n credu ein bod ni wedi dangos mai nid lwc oedd e. Ry’n ni wedi dangos lot o gymeriad i ddod yn ôl i’r rownd derfynol. Ry’n ni wedi gwella yn Ewrop gan gyrraedd y rownd gyn derfynol ac rwy’n credu os allwn ni gadw gwthio’n hunain i gyrraedd y rowndiau olaf ry’n ni’n mynd i barhau i wella.”

Wrth edrych yn ôl ar y perfformiad yn y rownd derfynol aeth Owens ymlaen i ddweud; “Ni wnaethon ni lwyddo i gael popeth yn iawn heddiw. Mae Leinster yn dîm da iawn ac fe aeth pethau bach o’u plaid nhw.

“Mae’n cymryd tîm o bencampwyr i drechu tîm o bencampwyr, fe welwyd ymdrech arbennig gan y tîm. Fe wnaethon ni gadw chwarae, weithiau chi’n wynebu tîm gwell.”

Gwnewch yn siwr eich bod chi #ynypac tymor nesaf. Tocyn tymor yw’r unig ffordd o sicrhau eich lle mewn gemau ail gyfle ym Mharc y Scarlets.

Am wybodaeth pellach am Docynnau Tymor cliciwch yma neu i brynu / adnewyddu eich tocyn tymor cliciwch yma.

Fe fydd pob sedd yn cael eu rhyddhau i werthiant cyhoeddus dydd Gwener 1af Mehefin.