“Mae’r achlysur yn gofalu ar ôl ei hun,” medd Pivac

Kieran Lewis Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Glasgow nos Wener yn rownd gyn derfynol Guinness PRO14 gyda’r tîm buddugol yn symud ymlaen i’r rownd derfynol wythnos yn ddiweddarach.

Wynebu Leinster neu Munster bydd pwy bynnag a fydd yn fuddugol nos Wener gydag un perfformiad a chanlyniad llwyddiannus arall yn ddigon i godi tlws Guinness PRO14.

Yn union fel y tymor diwethaf fe fydd yn rhaid i’r Scarlets deithio oddic artref ar gyfer y rownd cyn derfynol er mwyn cadw eu dwylo ar y tlws.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac; “Mae’n ddiwrnod newydd ac mae’n rhaid i ni wneud yn siwr ein bod ni gyd ar yr un dudalen. Mae’r achlysur yn gofalu ar ôl ei hun.

“Fe fydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau, ry’n ni eisiau heriau mawr fel hyn ac ry’n ni’n edrych ymlaen ato.”

Nid yw Glasgow wedi chwarae ers iddyn nhw golli yn erbyn Caeredin yn rownd arferol olaf y tymor tra bod y Scarlets wedi sicrhau buddugoliaethau dros y Dreigiau a’r Cheetahs yn y rownd go gyn derfynol.

Aeth Pivac ymlaen i ddweud; “Does dim pwrpas i ni boeni yn ormodol am yr hyn sydd wedi digwydd yn yr wythnosau diwethaf. Ni wnaethon ni chwarae yn dda iawn yn ein rownd gyn derfynol diwethaf (Ewrop). Mae hynny’n dal yn ffres iawn yn y meddwl.

“Mae Glasgow yn cadw’r bêl yn y dwylo. Fe fyddan nhw’n rhoi ein amddiffyn o dan bwysau does dim dwywaith am hynny. Fe fydd yn rhaid i ni amddiffyn yn dda.”

Glasgow v Scarlets, Gwener 18fed Mai, Stadiwm Scotstoun, CG 19:45