Rhannwyd Glenn Delaney bod y chwaraewyr wedi siomi ar ôl iddyn nhw golli mas ar fuddugoliaeth yn erbyn Ulster nos Sul.
Er iddyn nhw adael Stadiwm Kingspan gyda dau bwynt bonws, mae’r prif hyfforddwr yn credu roedd gan y Scarlets digon o gyfleoedd i ddod i ffwrdd yn fuddugol.
“Rwy’n falch iawn o’r ymdrech gan y bois” dywedodd Glenn. “Yn amlwg roedd y chwaraewyr wedi siomi gyda’r canlyniad gan eu bod nhw’n gwybod roedd yna gyfle i ennill y gêm. Pethau bach fel y cais rhyng-gipiad yn yr hanner cyntaf wnaeth colli’r gêm i ni.
“Mae angen i ni weithio ar rhai sgiliau allweddol, ond rhaid cofio mae’r bois wedi dod i un o’r llefydd anoddaf yn y byd i chwarae rygbi ac wedi perfformio’n dda ar y cyfan, roedd ein hymdrech jyst ddim yn ddigon ar ddiwedd y dydd.
“Mae’r siom yn dangos faint maen nhw wedi datblygu fel tîm, bod nhw wedi siomi i ddim mynd adre’ yn fuddugol. Roedd yr angerdd yna, a’r amodau sych yn ein siwtio ni, ac mae’n bwysig i ni i gadw chwarae fel hyn.”
Y gêm nesa’ i’r bois wynebu bydd yn erbyn y pencampwyr Leinster.
“Mae’r taleithiau Gwyddelig yn chwarae’n arbennig tymor yma: mynegwyd Delaney. “Mae hyn yn gam arall i ble rydym eisiau bod. Mae’r garfan yn gyffrous iawn, er iddyn nhw deimlo bach yn rhwystredig nawr, roedd hi’n gêm gorfforol iawn a disgwylir brwydr debyg wythnos nesaf.”