“Mae’r cefnogwyr yn haeddu perfformiad da,” medd Pivac

Menna Isaac Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn dychwelyd i Barc y Scarlets fory, Sadwrn 29ain Rhagfyr, ar gyfer y cyntaf o ddwy gêm i ddod â gemau darbi Nadoligaidd Guinness PRO14 i ben.

Yn dilyn bloc siomedig yng Nghwpan Pencampwyr Heineken ni lwyddodd y Scarlets i rhoi’r anrheg Nadolig perffaith i’r cefnogwyr wrth i’r Gweilch sicrhau’r fuddugoliaeth ar Stadiwm Liberty cyn y Nadolig.

Fe fydd tîm Wayne Pivac yn dychwelyd i’r Parc fory gan obeithio rhoi’r tymor Guinness PRO14 yn ôl ar y cledrau ar ôl cwympo i’r trydydd safle yn y Adran B gyda Ulster yn symud i’r ail safle.

Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd Wayne Pivac; “Am y tro cyntaf ers i mi fod yma ry’n ni wedi gallu rhoi diwrnod Nadolig a Gwyl San Steffan i’r bois gyda’u teuluoedd. Mae’n neis gallu gwneud hynny a rhoi cyfle iddynt dreulio amser gyda’u teuluoedd.

“Maent wedi dod i mewn heddiw (Iau) ac maent i gyd yn amlwg yn siomedig gyda chanlyniad wythnos diwethaf ond maent hefyd yn edrych ymlaen at gêm bwysig dydd Sadwrn ac i fod yn ôl yn y Parc.

““Mae’r cefnogwyr yn haeddu perfformiad da a dy’n ni ddim wedi gwneud hynny dros y mis diwethaf.

“Ry’n ni eisiau sicrhau perfformiad da i gadw pawb yn hapus dros yr wyl ac fe fyddwn ni’n sicr yn ceisio gwneud hynny.”

Aeth ymlaen i drafod canlyniadau diweddar gan ddweud; “Dy’n ni ddim wedi bod yn chwarae’n rygbi gorau. Fe wnaeth y Gweilch dynnu ni mewn i gêm gicio, ac mae hynny’n anarferol iawn i ni.

“Ry’n ni wedi ffocysu’n llwyr ar y Guinness PRO14, fe allwn ni gael tymor mawr fel wnaethon ni yn 16-17 pan roedden ni ond yn canolbwyntio ar un cystadleuaeth.”

.

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Gleision Caerdydd ym Mharc y Scarlets ar ddydd Sadwrn 29ain Rhagfyr, cic gyntaf 17:15. Mae tocynnau ar gael nawr o tickets.scarlets.wales