Mae’r Scarlets yn cydweithio unwaith eto gyda chlybiau lleol i ddosbarthu hamperi Nadolig dros yr ŵyl.
Gyda help llaw wrth rhai aelodau o’r garfan hyn, mae gweithwyr y Scarlets wedi rhoi at ei gilydd 490 o hamperi yr wythnos hon. Byddwn yn dosbarthu’r pecynnau bwyd i glybiau lleol, ac wedyn bydd y clybiau yn gallu eu rhoi i aelodau o’r gymuned sydd wedi’u heffeithio gan Covid-19.
Gwnaeth Sefydliad Cymunedol y Scarlets, sef cangen elusennol y Scarlets, trefnu dros 800 o becynnau gofal yw dosbarthu yn ystod y cyfnod cyntaf o Covid, gydag unigolion, teuluoedd a thai gofal yn elwa o’r rhoddion.
Gyda diolch i roddwyr hael, mae’r sefydliad am helpu’r gymuned unwaith yn rhagor gyda 37 o glybiau a hybiau menywod ar draws ein tair sir – Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredu’r Scarlets Phil Morgan “Mae’r sefydliad cymunedol yn rhan enfawr o’r Scarlets, yn fwyfwy eleni nag erioed oherwydd effaith Covid ar deuluoedd yn ein rhanbarth.
“Mae’r gefnogaeth rydym wedi derbyn wrth deulu’r Scarlets wedi bod yn anhygoel yn ystod yr amseroedd anodd yma, a gyda diolch i’r nifer o bobl sydd wedi ein helpu, gallwn rhoi rhywbeth nol dros yr ŵyl Nadolig.
Hoffir y Scarlets ddiolch ein partneriaid yn Castell Howell am ei holl waith yn darparu bwyd i’r hamperi ac i’r clybiau a hybiau sydd yn cymryd rhan yn dosbarthu’r hamperi.
Llanelli RFC, Llanelli Wanderers RFC, St Clears RFC, Burry Port RFC, Yr Hendy RFC, Narberth RFC, Tycroes RFC, Llandeilo RFC, Amman United RFC, Trimsaran RFC, Carmarthen Athletic RFC, Fishguard & Goodwick RFC Felinfoel RFC, Llandybie RFC, Ammanford RFC, Newcastle Emlyn RFC, Penybanc RFC, Whitland RFC, Cardigan RFC, Furnace RFC, Haverfordwest RFC, Llandovery RFC, Nantgaredig RFC, Pontyberem RFC, Bae Ceredigion, Aberystwyth RFC, New Dock Stars RFC, Kidwelly RFC, Betws RFC, Tenby United RFC, Pontyates RFC, Lampeter RFC, Carmarthen Quins RFC, Pembroke RFC, Neyland RFC, Milford Haven RFC, Laugharne RFC, Merched Mynydd Mawr
Llun: Riley Sports Photography