Mae’r Scarlets wedi apwyntio Joe Lewis yn Bennaeth Perfformiad Technegol

Rob Lloyd Newyddion

Mae’r Scarlets yn falch i gyhoeddi apwyntiad Joe Lewis yn Bennaeth newydd ar Berfformiad Technegol.

Treuliodd Joe dau gyfnod gyda’r Scarlets o’r blaen, gyda’r Academi a gyda’r garfan hŷn, lle treuliodd pedair blynedd fel Prif Ddadansoddwr.

Yn wreiddiol o Lanfair-ym-muallt, mae Joe wedi bod yn Brif Ddadansoddwr i dîm cenedlaethol Lloegr ers 2017, gan ddarparu dadansoddiadau allweddol a mewnwelediadau i’r prif hyfforddwr Eddie Jones a’i dîm hyfforddi.

Gweithiodd ym myd Super Rugby Awstralia; yn Seland Newydd gyda’r Taranaki Rugby Union a gyda’r FA gyda thîm pêl-droed menywod Lloegr. Fe weithiodd joe gydag Undeb Rygbi Cymru hefyd fel dadansoddwr gyda’r timau D18, D20 a’r timau merched.

Fel Pennaeth Perfformiad Technegol, bydd Joe yn gyfrifol am yr holl gefnogaeth i’r tîm hyfforddi ar ac oddi ar y cae, gan herio’r broses hyfforddi a chysylltu’r ymchwil dadansoddi diweddaraf er mwyn uchafu perfformiad y tîm.

Dywedodd prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Mae dod â Joey nôl o’r RFU yn fudd mawr i ni. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae wedi bod yn gweithio gydag Eddie Jones ac yn dod â llawer o brofiad o’r rôl hynny. Mae ei rôl wedi datblygu o fewn yr amser hynny o safbwynt dadansoddwr i berfformiad technegol ac mae hynny yn mynd i helpu fi a gweddill y tîm hyfforddi wrth i ni gamu i mewn i’r tymor newydd.”

Ychwanegodd rheolwr cyffredinol rygbi’r Scarlets Jon Daniels: “Fel clwb rydym am roi’r cymorth gorau posib i Dwayne a’i dîm hyfforddi fel y gall y chwaraewyr rhoi’r perfformiadau a chanlyniadau gorau ar y cae ac mae’r apwyntiad o rywun sydd gyda’r profiad sydd gan Joe yn cryfhau hynny.

“Mae rygbi proffesiynol yn esblygu trwy’r amser ac mae Joe yn ychwanegu lefel arall i’r tîm hyfforddi, gan ddod â’r ymarferion gorau a ddysgodd yn ystod ei amser gyda’r RFU. Hefyd, wrth iddo weithio yma o’r blaen, mae Joe yn deall ein diwylliant ac uchelgeisiau’r Scarlets.

Dywedodd Joe Lewis: “Mae’n wych i fod nôl gyda’r Scarlets, rhywle dwi’n ystyried fel fy nghartref ysbrydol. Dwi’n ddiolchgar iawn i’r RFU ac i Eddie am roi’r cyfle i mi fod yn rhan o’i dîm ac yn fwy pwysig i ddysgu a gwella fy nghrefft i weithio at y safon gorau.

“Dwi hefyd yn ddiolchgar iawn am y cyfle o’r rôl newydd yma mae Dwayne wedi cyflwyno i mi a dwi’n edrych ymlaen at y cyfle i roi fy holl wybodaeth i waith gan yrru’r Scarlets a’r hyfforddwyr at fuddugoliaethau’r dyfodol.”