Mae’r Scarlets wedi ymuno â Chyfrifwyr Siartredig LHP mewn partneriaeth fasnachol newydd
Gyda swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan a Hwlffordd, mae LHP wedi bod yn gweithio gyda busnesau yng nghalon rhanbarth y Scarlets am fwy nag 80 mlynedd.
“Rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r tîm yn LHP i deulu masnachol y Scarlets,” meddai Pennaeth Masnachol Scarlets, James Bibby.
“Mae’n wych bod busnes sy’n gweithio ar draws ein tair sir ac o fewn ein cymuned wedi ymuno ac edrychwn ymlaen at groesawu LHP i’r Parc.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr LHP, Matthew Williams: “Fel cwmni o gyfrifwyr a chynghorwyr busnes yng ngorllewin Cymru, rydyn ni wrth ein bodd ac mae’n anrhydedd cael ffurfio partneriaeth gyda’r Scarlets i ofalu am eu cyfrifon ar gyfer y tymor sydd i ddod. Mae LHP yn ymdrechu i helpu busnesau yn y gymuned leol, yn enwedig yn ystod yr amseroedd anodd hyn ac rydym yn edrych ymlaen at dymor gwych. Pob Lwc i’r Scarlets ”.
I gael mwy o wybodaeth am LHP ewch i www.lhp.co.uk.
Yn y llun gyda chwaraewyr y Scarlets Samson Lee a Blade Thomson mae Cyfarwyddwyr LHP Matthew Williams a Dafydd Rees