Mae’r Scarlets yn croesawu nôl Tom Price o Exeter Chiefs

Rob Lloyd Newyddion

Mae’r Scarlets wedi ail-arwyddo’r chwaraewr ail-reng Tom Price o Exeter Chiefs

Chwaraeodd y clo 28 oed sy’n gymwys i chwarae i Gymru 56 o gemau i’r Scarlets ar hyd pedwar tymor rhwng 2015 a 2019 ac roedd yn aelod o’r garfan wnaeth ennill teitl y Guinness PRO12 yn 2017, gan chwarae 13 gêm yn ystod yr ymgyrch.

Ymunodd â’r Chiefs yn 2019 ac ar ôl dau dymor yn Sandy Parc mae Tom yn dychwelyd i Orllewin Cymru.

Fe ddaeth Price trwy system academi Leicester Tigers ac roedd yn aelod o garfan D20 Cymru a enillodd Pencampwriaeth Rygbi’r Byd D20 yn 2013.

Dywedodd Tom: “Fe ges i bedair blynedd grêt ym Mharc y Scarlets ac roedd bod yn aelod o’r garfan a wnaeth ennill teitl y PRO12 yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa.

“Mae’n amlwg bod y clwb yn anelu at fwy o lwyddiant dros y tymhorau nesaf. Mae gan y Scarlets carfan llawn talent, nifer o Lewod presennol a chwaraewyr rhyngwladol ymysg talent ifanc, yn enwedig yn yr ail reng.

“Mae’n gyfnod cyffroes i ymuno â’r clwb ac rwy’n edrych ymlaen at gystadlu am y crys a chychwyn y pre-season yn y wythnosau i ddod.”

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Dw i’n edrych ymlaen at weld Tom yn ymuno’r grŵp ac i fod yn rhan o bennod newydd gyda’r Scarlets.

“Rwy’n siŵr fe ddysgodd llawer yn ystod ei amser gyda Exeter ac fe fydd yn dod a llawer o rinweddau a phrofiad wrth i ni baratoi am y tymor newydd.”

Dywedodd Jon Daniels rheolwr cyffredinol rygbi’r Scarlets: “Chwaraeodd Tom mewn sawl i gêm i’r Scarlets yn ystod tymor y Bencampwriaeth ac mae wedi bod yn rhan hanfodol o garfan Exeter sydd wedi ennill teitlau ar lwyfan Ewropeaidd. Edrychwn ymlaen at ei groesawu nôl i Barc y Scarlets.”

Mae Price yn ymuno â WillGriff John, chwaraewr rheng ôl Tomas Lezana a chyn canolwr Scott Williams fel y chwaraewyr newydd yng ngharfan y Scarlets am ein hymgyrch 2021-22.

Bydd y chwaraewyr yn dychwelyd ar gyfer ymarferion pre-season ar ddiwedd y tymor er mwyn paratoi ar gyfer Pencampwriaeth Unedig Rygbi yn hwyrach ym mis Medi.