Mae’r Scarlets yn cydweithio â BulliesOut i ymladd yn erbyn atgasedd ar gyfryngau cymdeithasol

Gwenan Newyddion

Mae’r Scarlets mewn partneriaeth â’r elusen gwrth-fwlio BulliesOut am godi ymwybyddiaeth am gamdriniaeth chwaraewyr ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae BulliesOut yn elusen sy’n gwneud gwaith arbennig i ymladd bwlio ym mhob ffurf.

Mae gan y Scarlets cefnogwyr gwych sy’n ein cefnogi trwy gyfnodau da a drwg, ond dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld fwyfwy o negeseuon cas ar-lein ac fel clwb, ar ran ein chwaraewyr, mae’n bwysig ein bod yn cefnogi gwaith elusennau fel BulliesOut i ledaenu’r neges nad yw’r driniaeth yma ar-lein yn dderbyniol.

Ysgrifennodd ein rheolwr tîm Sara Davies erthygl bwerus iawn ar gyfer ein rhaglen gêm ar sut mae’r bwlio ar-lein yn gallu effeithio chwaraewyr a’u teuluoedd, tra bod chwaraewr y Scarlets a Chymru Liam Williams hefyd wedi codi’r mater ar ôl derbyn llawer o negeseuon yn dilyn ei berfformiad Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc.

Ysgrifennodd Liam yng ngholofn BBC ar-lein; “mae’n brifo fy mam, dad, chwaer, brawd a nai sydd ddim yn neis i weld. Dw i’n hefyd poeni os fydd hyn yn brifo rhywun dw i’n chwarae gyda. Mae llawer o fois yng ngharfan Cymru yn cael eu heffeithio gan negeseuon fel hyn ac yn cymryd hi’n bersonol. Dw i wedi gweld sylwadau yn dweud os nad yw chwaraewyr yn hoffi cyfryngau cymdeithasol dylent ddod oddi’r platfform, ond nid hynny yw’r ffordd iawn i ymateb i’r driniaeth yma.

“Gwelais dau chwaraewr pêl-droed yn derbyn negeseuon hiliol wythnos yma hefyd. Dylai’r pethau yma ddim digwydd. Nid oes gen i’r ateb i sut i atal y pethau yma rhag digwydd ond mae rhaid iddo stopio. Cofiwch am y rheswm rydym yn derbyn y negeseuon yma – am gynrychioli ein gwlad.

Dywedodd Linda James, sefydlydd BulliesOut: “BulliesOut are really pleased to be working with the Scarlets on raising awareness of trolling. The impact of trolling shouldn’t be underestimated – it can greatly affect the mental health of those targeted. Many trolls often target high-profile individuals with a large social media following in order to provoke reactions from their fans and followers. Not only is it an awful thing to do, something that can destroy a person’s life, a person who engages in this type of online behaviour is risking their own future as we all have a digital footprint.

“Trolling behaviour is unacceptable and more must be done to stop it from happening. Working with the Scarlets to highlight the issue is a step in the right direction and one we hope many others will take.”

Sefydlwyd ym Mai 2006, BulliesOut yw un o’r elusennau gwrth-fwlio mwyaf ymroddedig yn y DU. Maent yn darparu ei gwasanaethau ar draws y DU trwy weithio gydag unigolion, ysgolion, ieuenctid, cymunedau a’r gweithle, ac mae’r elusen yn darparu addysg, hyfforddiant a chymorth i filoedd o bobl. Un o’i llysgenhadon yw’r cyn-ddyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens.

I ddarllen mwy am yr elusen ewch i bulliesout.com