Mewnwelediad i ddyfodol disglair y Scarlets wrth i sêr ifanc lewyrchu yng Ngwersyll Deuddydd yr Haf!

Kieran Lewis Newyddion

Yr wythnos hon, roedd Arena Juno Moneta yn fôr o goch gydag o gwmpas cant o egin chwaraewyr ifanc yn arddangos eu sgiliau yn eu cit Scarlets yng Ngwersyll Deuddydd Haf y Scarlets.

Cafodd y chwaraewyr 6-11 oed wledd o weithgareddau rygbi dros y dau ddiwrnod, gyda’r cyfle i ddatblygu eu talent dan arweiniad hyfforddwyr sgiliau profiadol y Scarlets.

Bu sawl cais, tacl ac ymosodiad crefftus ond yr uchafbwynt i’r chwaraewyr ifanc oedd y cyfle i gwrdd â rhai o sêr Cymru dan 20 y rhanbarth mewn sesiwn lofnodi. Wedyn, aethon nhw’n nôl ati i ddatblygu eu sgiliau ac efelychu doniau y chwaraewyr dan 20 ar y cae.

Dywedodd Chris Jones, Cydlynydd Cymuned y Scarlets: “Mae wedi bod yn wych i weld cymaint o chwaraewyr ifanc â gwên o glust i glust yn mwynhau y sesiynau sgiliau. Mae merched a bechgyn wedi bod yn datblygu eu talentau rygbi gyda rhai o’n hyfforddwyr profiadol, gan hyrwyddo byw yn iach.

“Yfory, mae Cymuned y Scarlets yn edrych ymlaen i gynnal Gwersyll Rygbi i Ferched yn Unig ym Mharc y Scarlets ac wythnos nesaf, bydd y sesiynau sgiliau ar daith gyda gwersylloedd yn Aberystwyth, Dinbych y Pysgod ac Abergwaun.

You can book a place at the Scarlets Rugby Camps here