Morgan Jones yn rhydd i chwarae

Rob Lloyd Newyddion

Mae ail reng y Scarlets Morgan Jones yn rhydd i chwarae yn dilyn gwrandawiad disgyblu a gynhaliwyd heddiw (dydd Mercher, Hydref 28).

Dangoswyd cerdyn coch i Jones gan y dyfarnwr Andrew Brace yn ail hanner buddugoliaeth y penwythnos diwethaf dros Benetton o dan Gyfraith 9.13 – rhaid i chwaraewr beidio â thaclo gwrthwynebydd yn gynnar, yn hwyr nac yn beryglus. Mae taclo peryglus yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, daclo neu geisio taclo gwrthwynebydd uwchben llinell yr ysgwyddau hyd yn oed os yw’r dacl yn cychwyn o dan linell yr ysgwyddau.

Ymddangosodd Jones mewn cynhadledd fideo o flaen gwrandawiad disgyblu yn cynnwys Jennifer Donovan (Cadeirydd, Iwerddon), Beth Dickens (Yr Alban) a Tony Wheat (Iwerddon). Penderfynodd y gwrandawiad disgyblu nad oedd y weithred o chwarae budr yn cwrdd â throthwy cerdyn coch a bod digon o dystiolaeth liniaru i warantu cerdyn melyn.

Mae’r cerdyn coch wedi’i ddiddymu ac mae’r chwaraewr yn rhydd i chwarae o’r penwythnos hwn.