Newidiadau i’r Scarlets o flaen prawf y Dreigiau

Rob Lloyd Newyddion

Bydd y Scarlets yn gwynebu’r Dreigiau yn y URC ym Mharc y Scarlets ar Dydd Sdawrn (19:35; S4C) gan ddangos saith newid o’r gêm fuddugol penwythnos diwethaf yn erbyn Caerdydd.

Pedwar newid tu cefn i’r sgrym wrth i’r prif hyfforddwr Dwayne Peel newid rownd y tîm sydd wedi llwyddo am y tair gêm diwethaf.

Gyda Johnny McNicholl yn derbyn anaf i’w benglin ym Mharc yr Arfau, mae Liam Williams yn newid i cefnwr, Steff Evans sydd yn dod i’r asgell chwith a Corey Baldwin ar y dde. Mae Ryan Conbeer ddim ar gael oherwydd rhesymau personol ac mae Tom Rogers wedi anafu ei bigwrn.

Mae yna newid yng nghanol cae gyda Joe Roberts yn dod i mewn fel bartner i’r capten Jonathan Davies.

Y mewnwr rhyngwladol Kieran Hardy sydd yn cychwyn yn y safle, ac yn cydweithio â Sam Costelow.

Yn y rheng flaen, mae Shaun Evans yn llenwi safle Ryan Elias ac yn ymuno â’r propiau Steff Thomas a Javan Sebastian.

Yn yr ail reng mae Morgan Jones yn llenwi safle ei gydchwaraewr Jac Price, sydd yn gwella o anaf i’w ben o Barc yr Arfau – cwt oedd angen 30 pwyth.

Mae Tomas Lezana yn dychwelyd i’r rheng ôl wrth ochr seren y gêm penwythnos diwethaf Aaron Shingler a Sione Kalamafoni.

Mae Daf Hughes wedi gwella o anaf i’w ysgwydd ac wedi’i enwi ymysg yr eilyddion. Mae Rob Evans a Blade Thomson hefyd yn dychwelyd i’r 23.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Rwy’n mwynhau’r rygbi wythnosol yma, ac mae’r bois yn hefyd. Rydym yn ymwybodol o’r her i ddod, os edrychwch ar ein hanes gyda’r Dreigiau dros y tymhorau diwethaf mae sawl gêm agos wedi bod. Hefyd, mae ganddyn nhw sawl chwaraewr da, mae’r ansawdd yna, gyda nifer o’u chwaraewyr wedi chwarae yn y Chwe Gwlad eleni.

“Siaradwn o’r blaen am eisiau gorffen ar frig y tabl Cymreig a gorffen mor uchel ag y gallwn ar dabl y gynghrair. Mae yna her mawr o’n blaenau penwythnos yma, rydym yn gwybod bydd y Dreigiau yn dod yma i herio.”

Scarlets v Dreigiau (Dydd Sadwrn, Ebrill 2; 19:35 Premier Sports)

15 Liam Williams; 14 Corey Baldwin, 13 Joe Roberts, 12 Jonathan Davies (capt), 11 Steff Evans; 10 Sam Costelow, 9 Kieran Hardy; 1 Steff Thomas, 2 Shaun Evans, 3 Javan Sebastian, 4 Sam Lousi, 5 Morgan Jones, 6 Aaron Shingler, 7 Tomas Lezana, 8 Sione Kalamafoni.

Eilyddion: 16 Daf Hughes, 17 Rob Evans, 18 Harri O’Connor, 19 Blade Thomson, 20 Josh Macleod, 21 Dane Blacker, 22 Angus O’Brien, 23 Johnny Williams.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Wyn Jones (knee), Johnny McNicholl (knee), Carwyn Tuipulotu (foot), Tom Rogers (ankle), Kemsley Mathias (back), Scott Williams (shoulder), Dan Jones (knee), Ioan Nicholas (ankle), Rhys Patchell (hamstring), Samson Lee (Achilles), Marc Jones (calf), Ken Owens (back), Tom Phillips (knee), Leigh Halfpenny (knee), Lewis Rawlins (concussion), Josh Helps (ankle).