Canolwr Cymru Jonathan Davies fydd yn arwain ochr y Scarlets am eu hail gêm gyfeillgar yn erbyn Leicester Tigers yn Mattioli Woods Welford Road ar nos Iau (7yh cg).
Davies ydy un o 11 chwaraewr rhyngwladol wedi’u henwi yn y XV wrth i’r prif hyfforddwr Dwayne Peel rhoi cyfle i’r chwaraewyr mwy profiadol yn Nwyrain Canolbarth Lloegr.
Bydd Johnny McNicholl yn gefnwr gyda Steff Evans – serennodd fel eilydd yn erbyn Nottingham – gyda chwaraewyr rhyngwladol newydd Tom Rogers ar yr asgell.
Yng nghanol cae mae Tyler Morgan yn ymuno â Davies, wrth i’r cyn-teigr Sam Costelow partneru â Kieran Hardy fel haneri.
WillGriff John fydd yn cael ei ddechreuad cyntaf i’r Scarlets fel prop pen tynn wrth ochr Rob Evans a Ryan Elias yn y rheng flaen.
Ar ôl ei berfformiad da yn yr ail reng penwythnos diwethaf, Aaron Shingler fydd yn dechrau yn safle’r clo wrth ochr Tom Price, cyn-teigr arall fydd yn dychwelyd i’w hen weithle.
Yn y rheng ôl, Blade Thomson fydd yn cychwyn fel blaenasgellwr gyda Dan Davis a Sione Kalamafoni, yr unig chwaraewyr o dîm benwythnos diwethaf wnaeth trechu Nottingham ym Mharc y Scarlets.
Mae Samson Lee wedi’i enwi ar y fainc ymysg rhestr hir o eilyddion, gyda Scott Williams a fydd am wneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets ers rownd derfynol y Guinness PRO14 yn erbyn Leinster tair blynedd yn ôl yn dilyn ei ddychweliad i’r Scarlets o’r Gweilch.
Mae’r Scarlets wedi bod yn paratoi am y gêm yng ngwersyll ymarfer yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Mae wedi bod yn wythnos dda i ni, mae’r bois wedi gweithio’n galed ac wedi mwynhau cwmni ei gilydd sydd yn bwysig. Diolch enfawr i Glwb Rygbi Nant Conwy am ein cefnogi ni yma.
“Rydym yn ymwybodol fydd rhaid camu i fyny wrth chwarae Leicester, maent yn dîm corfforol iawn gyda llawer o fygythiad, ond mae’r bois yn awyddus i fynd allan a dangos beth rydym wedi gweithio ar dros y misoedd diwethaf.”
Scarlets v Leicester Tigers (Iau, Medi 9 2021; 7yh cg)
15 Johnny McNicholl; 14 Tom Rogers, 13 Jonathan Davies (capt), 12 Tyler Morgan, 11 Steff Evans; 10 Sam Costelow, 9 Kieran Hardy; 1 Rob Evans, 2 Ryan Elias, 3 WillGriff John, 4 Aaron Shingler, 5 Tom Price, 6 Blade Thomson, 7 Dan Davis, 8 Sione Kalamafoni.
Reps (from) Marc Jones, Daf Hughes, Phil Price, Samson Lee, Josh Helps, Jac Price, Shaun Evans, Tom Phillips, Harri Williams, Dan Jones, Angus O’Brien, Steff Hughes, Scott Williams, Ryan Conbeer, Ioan Nicholas.
Mae’r gêm yn cael ei ddarlledu’n fyw ar wefan Leicester Tigers www.leicestertigers.com