Newyddion o benwythnos rhyngwladol wrth i Scarlets chwarae eu rhan yn hanes

Rob Lloyd Featured

Chwaraewyr y Scarlets wnaeth ysgrifennu tudalen newydd yn hanes rygbi wrth i fois Cymru hawlio’u buddugoliaeth cyntaf ar dir Dde Affrig.

Yn yr ail brawf o’r gyfres yn Bloemfontein, y mewnwr Kieran Hardy, bachwr Ryan Elias a’r eilydd o brop Wyn Jones chwaraeodd eu rhan yn gêm cynhyrflyd yn erbyn pencampwyr y byd y Springboks wrth cipio’r sgôr yn y munudau diwethaf i ennill o 13-12.

Roedd cicio Hardy ar darged trwy gydol yr hanner cyntaf cyn iddo gael ei eilyddio gan Tomos Williams yn yr ail hanner, tra bod Elias a Jones wedi cyfrannu’n gorfforol yn erbyn wyth cryf y Springboks.

Bydd tîm Cymru yn ymarfer yn dinas Cape Town wythnos yma ar gyfer y gêm olaf o’r gyfres.

Yn Ne America, curodd yr Alban yr Ariannin o 29 pwynt i 6 i gwblhau penwythnos llwyddiannus i’r Cenhedloedd Cartref. Y prop Javan Sebastian daeth oddi’r fainc i ennill ei drydydd cap Albanaidd.

Yn gynharach, Sam Lousi a thîm Tonga collodd eu trydydd gêm yn olynol yng Nghwpan Pacific Nations, y tro yma yn erbyn Samoa, 34-18.

Er hynny roedd yna llwyddiant i XV yr Ariannin a oedd yn cynnwys y chwaraewr rheng ôl Tomas Lezana, gyda’r Pumas yn trechu Portiwgal o 52-35 yn Lisbon.

Llun: Wyn Jones (Instagram)