Mae Dai Flanagan yn mynnu ni fydd y Scarlets yn defnyddio’u cyfnod cwarantin fel esgus wrth paratoi i wynebu tîm TOP14 Bordeaux-Begles yn yr ail rownd o Gwpan Pencampwyr Heineken ar Ddydd Sul.
Ar ôl tynnu allan o’r gêm agoriadol yn erbyn Bristol Bears yn dilyn y cwarantin 10 diwrnod yng ngwesty Antrim, mae’r garfan wedi dychwelyd i ymarferion ym Mharc y Scarlets o Ddydd Llun.
“Mae bod nôl mewn awyrgylch cyfarwydd yn grêt,” dywedodd hyfforddwr y cefnwyr Flanagan.
“Mae yna buzz o amgylch y bois hefyd am yr un rhesymau – mae’r bois yn dwli ar ddod mewn i gwaith, ac fel chwaraewyr proffesiynol rydych yn sylweddoli pa mor lwcus ydych chi i wneud y pethau yma. Mae llawer o egni ambwyti lle’r ac mae pawb yn hapus i fod nôl.
“Mae pawb yn ymarfer, ac yn gallu cael eu dewis. Mae nhw gyd yn edrych yn dda, ac rydym am rhoi’r cyfle gorau iddyn nhw i baratoi ar ôl beth rydym wedi bod trwyddo. Mae pawb yn iach ar hyn o bryd.
“Gallwch ddefnyddio cwarantin fel esgus. Yn ystod yr hunan ynysu cawsom siaradwyr gwadd anhygoel i siarad â ni, dynion sydd wedi byw trwy cyfnodau anodd hefyd. Y peth mwyaf oedd pawb yn gwthio oedd does dim esgus. Ni fydd Bordeaux yn becso ein bod wedi hunan ynysu, bu nhw’n dod i frwydro.
“Mae’n bwysig nad ydym yn rhoi esgusodion, mae hyn yn gyfle. Mae angen i ni berffeithio ein cynllun a gwneud yn siwr ein bod ar darged ar Ddydd Sul, ac fe fydd hi’n her, ond mae pawb yn mwynhau’r her, yn enwedig yn rygbi.
“Y sialens fydd sicrhau ein bod yn barod yn gorfforol. Mae’n rhwydd i ni gorfeddwl. Mae rhaid i ni chwarae’n rhydd, ac mae hynny’n cyffroi’r chwaraewyr, yn enwedig yn y rhan yma o’r byd.
“Mae Bordeaux yn dîm ffantastig o ansawdd da. Maent yn datblygu ar ôl colli’r gêm diwethaf, mae rhaid iddyn nhw ennill i aros o fewn y gystadleuaeth, felly bydd y grwp yn dod yma i brofi pwynt, i brofi mae blip oedd y golled ac rydym yn edrych ymlaen at gyrraedd y lefel yna.”
Felly pa mor bwysig oedd hi i reoli’r chwaraewyr yn gorfforol?
“Os edrychwch ar roi o’r cyflymder uchaf, yn enwedig ymysg ein cefnwyr. Mae gennym rhai o’r athletwyr mwyaf parod sy’n gwthio’u cyrff i’r eithaf, ac os oeddwn wedi gofyn iddyn nhw chwarae yn erbyn Bryste byswn yn gofyn iddyn nhw chwarae ar y lefel yna am 80 munud heb unrhyw paratoi, ac nad oedd hynny’n deg arnyn nhw. Wythnos yma, gallwn ymarfer am yn ail diwrnod a just adeiladu oddi ar hynny.
“Nad oeddwn yn digon ffodus i gael hynny yn ystod cwarantin, roedd gennym faes parcio 40 medr ar goncrit lle oedd y bois yn gallu rhedeg, ac fe rhedodd y grwp. Roedd ganddyn nhw sesiynau yoga bob bore, ac yn gwneud rhaglenni ymarfer. Fe wnaethom cymaint a gallwn i allu paratoi am yr wythnos.
“Nad yw hi’n rhwydd i gyflawni pethau, ac rydym am ddefnyddio ein profiadau dros yr wythnosau diwethaf i’n ysbrydoli ar gyfer perfformiad da ar Ddydd Sul, mae hynny’n bwysig iawn.”