Olew dros Gymru i barhau fel prif noddwyr y Scarlets

Rob LloydNewyddion

Mae’r Scarlets yn falch i gyhoeddi bydd Olew dros Gymru yn parhau fel noddwyr ar flaen crys y Scarlets am dymor 2023-24.

Mae’r cwmni sydd wedi’i leoli yn Sir Gaerfyrddin, yn gefnogwyr o rygbi yng Nghymru ac yn brif noddwyr i’r Scarlets ers 2020.

Yn fusnes teuluol, sefydlwyd Olew dros Gymru yn 2010 gan Colin Owens, gyda chefnogaeth ei wraig Shirley, ei ferch Sally a’i fab Paul.

Mae’r busnes tanwydd annibynnol wedi ymrwymo i weithio tuag at ddyfodol gwyrdd ac maent yn y broses o newid i Gwyrdd dros Gymru ar ôl llwyddo i fuddsoddi £1m yn ei ffatri gweithgynhyrchu ym Mhontsenni.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Sally Williams: “Rydym yn falch iawn i barhau ein cefnogaeth o’r Scarlets, clwb sydd yn rhannu’r un gwerthoedd cymunedol a theuluol â’r busnes.

“Fe fwynhawyd sawl noson arbennig ym Mharc y Scarlets tymor diwethaf ac roedd yn wych i weld cynnydd y clwb yn y Cwpan Her a’r ffydd sydd i weld yn nhalent ifanc y rhanbarth.

“Edrychwn ymlaen at y tymor i ddod gyda’r holl gyffro o weld y bois yn rhedeg allan yn eu crysau gyda’n logo ar gyfer digwyddiad cofiadwy arall yn erbyn y Barbariaid ym mis Medi.

Ychwanegodd Sally Williams: “Wrth i ni ystyried pa mor bwysig yw’r sefyllfa newid hinsawdd rydym yn edrych at y dyfodol a sut i amddiffyn ac achub ein hamgylchedd lle mae’n bosib. Fel cwmni olew, mae hyn yn dasg anodd, ond yn un rydym yn gwbl ymroddedig, ac felly rydym yn trawsnewid i Gwyrdd dros Gymru.

“Ar hyn o bryd, mae’n holl bwysig i’r diwydiant olew i gefnogi tanwyddau gwyrddach i leihau allyriadau, sydd yn rheswm pam rydym yn cyflenwi Tanwydd Adnewyddadwy yng Ngogledd a De Cymru. Yn ein trawsnewidiad i Gwyrdd dros Gymru, rydym mewn trafodaethau gyda nifer o lywodraethau lleol ar draws Cymru wrth i ni geisio i weithio gyda’n gilydd i gryfhau ein perthynas i ddarparu dyfodol glanach a gwyrddach i’r cymunedau lleol.

Dywedodd Pennaeth Masnachol y Scarlets Garan Evans: “Rydym wrth ein bodd bydd Olew dros Gymru ar flaen ein crys unwaith eto tymor yma. Mae’r cwmni teuluol wedi’i leol yma yn y rhanbarth ac yn angerddol iawn am nid yn unig y Scarlets, ond rygbi yng Nghymru.

“Mae Olew dros Gymru wedi cyfrannu cymaint i’r gymuned ar draws y blynyddoedd, yn enwedig yn ystod Covid-19 a’r argyfwng tanwydd diweddar pan wnaeth y cwmni darparu tanwydd i’r henoed a phobl ddifreintiedig ar draws De Cymru. Fe gefnogwyd y Scarlets yn ystod amser heriol yn economaidd hefyd.

“Edrychwn ymlaen at groesawu Colin a’r tîm nôl i Barc y Scarlets ar gyfer y tymor newydd a pharhau ein partneriaeth.”

Bydd crys cartref newydd y Scarlets am dymor 2023-24 yn cael ei ddatgelu am 10yb ar Ddydd Gwener.

Yn y llun mae Jonathan Davies gyda Colin Owens o Olew dros Gymru, a’r cyfarwyddwr Sally Williams.