Olew Dros Gymru yn parhau fel prif noddwyr

GwenanNewyddion

Olew Dros Gymru bydd prif noddwyr y Scarlets eto am dymor 2021-22.

Mae’r busnes o Sir Gaerfyrddin yn gefnogwyr brwd o’r clwb a rygbi Cymru ac rydym wrth ein bodd bod y tîm yn parhau gyda ni gyda’i bathodyn tair pluen

Wedi’i sefydlu yn 2010, mae Olew Dros Gymru yn gwmni teuluol a chreuwyd gan Colin Owens, gyda chefnogaeth ei wraig Shirley, ei ferch Sally a mab Paul.

Yn gyflenwyr tanwydd annibynnol, mae Olew Dros Gymru yn darparu llu o wasanaethau i gartrefi, cwmnïau, lleoliadau marchnata, a chwsmeriaid amaethyddol a manwerthu trwy Gymru gyfan.

Fe ddaeth y cwmni yn noddwyr ar flaen crys y Scarlets ar ddechrau’r tymor 2020-21 ac mae ganddyn nhw sawl un o’n chwaraewyr fel ei llysgennad, megis bachwr y Llewod a chapten y clwb Ken Owens a’i gyd-chwaraewyr rhyngwladol Leigh Halfpenny, Gareth Davies, Jonathan Davies a Samson Lee.

“Mae’n dod a llawer o falchder i weld y bois yn rhedeg allan ar y cae y tymor yma gyda chwmni Gorllewin Cymru ar flaen eu crysau,” dywedodd Colin Owens cyfarwyddwr Olew dros Gymru (yn y llun uchod gyda Ken Owens).

“Mae’r cwmni â’r Scarlets yn parchu’r un gwerthoedd. Rydym yn ymfalchïo ein bod at galon y gymuned, rhywbeth mae’r Scarlets yn falch iawn ohono fel y gallwn weld ar hyd y 16 mis diwethaf yn ystod Covid-19.

“Edrychwn ymlaen at barhau ein cydweithrediad i mewn i’r tymor newydd ac i weld y cefnogwyr nôl ym Mharc y Scarlets.”

Dywedodd pennaeth marchnata’r Scarlets James Bibby: “Rydym yn werthfawrogol iawn o gefnogaeth ein partneriaid yn ystod y cyfnod anodd yma ac mae Olew dros Gymru wedi dangos cefnogaeth anhygoel i’r Scarlets trwy gyfol yr amser hynny.

“Mae teulu a’r gymuned yn golygu llawer i Colin a’r tîm yn Olew dros Gymru ac mae hynny’n bartneriaeth dda gyda’r Scarlets.

“Rydym methu aros i weld ein crysau newydd yn cael eu datgelu ac yn edrych ymlaen at groesawu pawb nôl i Barc y Scarlets ar gyfer y penwythnos agoriadol ym mis Medi.”