Cafodd prif hyfforddwr interim Dai Flanagan sgwrs gyda’r wasg o flaen y gêm Cwpan yr Enfys yn erbyn Gleision Caerdydd ar ddydd Sadwrn.
Ydy hi’n sefyllfa ryfedd i ffeindio dy hun i mewn?
DF: “Mae ychydig yn wahanol, bach mwy prysur nag arfer. Mae’r chwaraewyr wedi bod yn rhagorol, mae’r chwaraewyr hyn yn sicr wedi fy nghefnogi. Nhw sydd yn arwain y grŵp, sydd yn bwysig iawn. Cawsom wybod ar ôl y gêm ac i fod yn deg fe wnaeth y clwb trafod diwedd y tymor a’r cynllun am y chwe wythnos nesa gyda mi. Rydym i gyd wedi siomi, mae Glenn yn ddyn arbennig ac mae wedi bod yn dda iawn i mi. Pan ddaeth ef a Brad i mewn, fe ddysgais lawer wrth y ddau ohonyn nhw; maen nhw’n bobl dda ac wedi bod yn dda iawn i mi felly mae’n siomedig o ran hynny.”
Sut wyt ti’n bwriadu trafod y chwe wythnos nesaf?
DF: “Mae’n wythnos darbi, wythnos fawr ac rydym yn cynllunio i roi amser chwarae i’r bois ifanc, chwaraewyr sydd yn rhan o’r garfan ac yn bwysig i ni blwyddyn nesaf ond heb gael cymaint o gyfle. Rhywun fel Ioan Nicholas, sydd yn edrych ymlaen yn fawr at chwarae ar y penwythnos. Mae’n ysu i fynd ac wedi ymarfer yn dda ers dychwelyd o’i anaf.”
Beth oedd rhaid gweud i’r chwaraewyr?
DF: “Mae gennym grŵp arbennig o chwaraewyr hyn. Maen nhw wedi bod yn ardderchog, maent wedi fy nghefnogi a dwi wedi ymddiried ynddyn nhw i ddarparu’r negeseuon priodol. Mae pawb yn siomedig, mae Glenn yn ddyn arbennig ac mae’r bois am ddangos hynny yn eu perfformiad ar y penwythnos.”
Wyt ti’n edrych ymlaen at gyrhaeddiad Dwayne Peel?
DF: “Mae gen i berthynas gyda Dwayne oherwydd fy mherthynas gyda Steve, bob tro roeddwn yn gweld y ddau bysen i’n siarad gydag ef. Popeth dwi wedi siarad gyda Dwayne am maent wedi bod yn ardderchog. Mae’n Scarlet i’r carn ac fe allwch weld ei angerdd am y lle yma trwy siarad gydag ef.”
Beth wyt ti’n disgwyl o Gleision Caerdydd?
DF: Mae gan Gaerdydd sawl chwaraewr anhygoel, os edrychwch ar eu haneri, Jarrod Evans, Ben Thomas, Josh Adams, Matthew Morgan a Hallam Amos. Bydd y Gleision yn barod i fynd fel maen nhw o hyd. Maent wedi eu hyfforddi’n dda gan Richard Hodges, ac yn talu eu ffordd gyda’u hamddiffyn a strwythur. Mae’n bwysig i ni gwrdd y lefel yna, rhywbeth efallai na wnaethom nôl ym mis Ionawr, nhw enillodd y frwydr hynny. Mae rhaid i ni weithio’n glyfar ond hefyd cwrdd ei lefel corfforol nhw.”
Sut mae Jon Davies wedi ymateb i gyhoeddiad y Llewod?
DF: “Does neb yn gweithio’n galetach na’ Jon yn y clwb. Mae wedi parhau i weithio ac mae ei berfformiadau wedi gwella bob tro. Mae hefyd yn helpu’r bois ifanc fel Joe Roberts a Tyler Morgan. Roedd yn amlwg wedi siomi, ond fe oedd y cyntaf i longyfarch y bois a dyna’r fath o ddyn yw Jon. Mae’r bois wedi bod yn wych gydag ef. Mae llawer o empathi amdano ei sefyllfa a beth mae wedi mynd trwy yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda’i anaf a’i ymdrech i geisio gael lle ar yr awyren i Dde Affrica. Nid hyn yw’r diwedd i Foxy, gall weithio ei ffordd yn ôl o anaf ac mae’n gwybod hynny. Does dim canolwr gwell yn y byd pan mae ar ei orau ac mae’n edrych ymlaen at brofi rhai pobl yn anghywir.”