O’r Stafell Wasg: Dwayne o flaen gêm Benetton

Rob Lloyd Newyddion

Siaradodd Dwayne Peel â’r wasg o flaen gêm Benetton yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar nos Wener. Dyma beth oedd ganddo i weud.

Colled mawr arall penwythnos diwethaf, ond yn deg i weud perfformiad gwahanol i’r un yn erbyn Munster?

DP: “Mae hynny’n deg. Yn amlwg nad ydyn yn hapus gyda’r canlyniad, dyna’r nodyn pwysig. Dwi’n credu roedd rhai agweddau yn dangos gwelliant, roedd egni da gyda ni yn enwedig yn gynnar yn y gêm ac am yr hanner awr cyntaf fe gystadlwn yn dda. Yn ystod yr hanner amser roedd y gred yna ein bod dal i gystadlu am y fuddugoliaeth ac roeddwn wedi siomi nad oedd y tîm yn gallu dilyn y cynllun. Rydym wedi cael pythefnos anodd ac dwi wedi sôn am hynny ond rydym wedi ffocysu ar beth sydd angen i ni wella. Ni fydd y gemau dwethaf yn ein diffinio, mae’n bwysig ein bod yn parhau i weithio’n galed a gwella o wythnos i wythnos.”

Sut wnaeth y bois ymateb i’r golled yn Nulyn?

DP: “Roedd y siom ar ôl Leinster yn wahanol. Mae 10 o’r bois wedi ein gadael ar gyfer y garfan rhyngwladol; mae grwp gwahanol o fois sy’n gweithio’n galed ac yn haeddu’r cyfle penwythnos yma yn erbyn Benetton. Yn amlwg mae’r bois yn brifo ar ôl y pythefnos diwethaf, ond dyma yw dechrau’r tymor ac rydym yn ceisio i roi pethau newydd at eu gilydd.”

Beth yw dy farn ar deithio i Dde Affrica ar ôl gemau’r Hydref?

DP: “Mae’n anodd, mae Cymru yn chwarae Awstralia ac wedyn rydym yn chwarae yn Durban wythnos wedyn. Wedyn yn dod nôl o Affrica rydym yn syth i mewn i’r gêm ym Mryste yn Ewrop. Mae’r cyfnod yna yn gyffrous iawn ond yn heriol; mae’n gyffrous i fynd a chwarae yn Durban a chwarae yn Loftus yn erbyn y Bulls, bydd hynny yn brofiad enfawr i’r bois. Bydd hi’n brofiad rygbi anhygoel, bydd hi’n anodd ond dyna beth mae’r gynghrair yn golygu nawr.”

Beth am yr anafiadau hir dymor?

DP: “Roeddwn yn gobeithio bydd Josh Macleod a Rhys Patchell yn barod rhywbryd hyd at nawr, ond yn anffodus nad yw’r ddau yn barod. Cwpl o wythnosau eto, gyda lwc, byddwn nhw nôl.”

Beth gall cefnogwyr y Scarlets disgwyl ar nos Wener?

DP: “Mae agweddau o beth allwch i ddisgwyl wedi’u dangos dros y pedwar gêm diwethaf. Rhaid i ni ddangos yr angerdd i chwarae a cadw’r ffydd yn ein hunain. Rydym wedi annog y bois wythnos yma ein bod yn credu ynddyn nhw. Mae rhaid i ni gredu yn ein cynllun a ble rydym yn mynd.”

Bydd Aaron Shingler yn gwneud ei 200fed ymddangosiad ar Ddydd Gwener. Beth yw ei rhinweddau?

DP: “Mae’r carreg filltir yma yn grêt iddo ac dwi’n hapus iawn iddo. Roedd Shings yma pan roeddwn i’n chwarae, roedd yn chwarae i Lanelli pryd hynny, wedi dod o chwarae criced ac rwy’n gofio nad oedd unrhyw gig arno, ac does dim llawer wedi newid ers hynny! Mae wedi bod yn chwaraewr grêt, mae ganddo agwedd da ac does neb yn ymarfer yn galetach.”