O’r Stafell Wasg: Dwayne o flaen gêm y Gweilch

Rob Lloyd Newyddion

Siaradodd Dwayne Peel â’r wasg heddiw wrth i’r Scarlets paratoi i wynebu’r Gweilch yn eu gêm cystadleuol cyntaf o rygbi ers y fuddugoliaeth yn erbyn Benetton ar Hydref 22. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud…

Dwayne, sut mae’r hwyl wythnos hyn?

DP: “Mae’r bois mewn hwyliau da ac wedi llwyddo i weithio’n galed. Cawsom rownd arall o brofion PCR bore ‘ma felly byddwn yn gwybod y canlyniadau yn hwyrach. Mae’r bois yn barod i fynd ac yn ysu i chwarae gêm o rygbi, mae cymaint o amser wedi mynd heibio ac mae’n siomedig i orfod gohirio gêm ar ôl paratoi yn gorfforol ac yn seicolegol. Gobeithiwn wythnos hon gallwn groesi’r llinell s chwarae gêm broffesiynol eto, dyna beth mae’r bois eisiau.”

Pa mor rhwystredig ydy’r cyfnod yma i bawb?

DP: “Mae’n rhwystredig iawn, yn enwedig i gael y gêm yn erbyn Caerdydd i’w alw bant yn mor agos at ddiwrnod y gêm. Roedd y garfan wedi paratoi’n dda ac roedd ffeindio allan ar ddiwrnod Nadolig ei bod wedi’i ohirio yn anodd. Roedd y bois wedi’u siomi, fel pawb arall. Mae rhaid i ni symud yn gyflym ymlaen at y nesaf wrth i ni wynebu gêm mawr penwythnos yma. Gan mai’r cynllun oedd i chwarae ar y Dydd Sul fe ddaeth y bois i mewn i ymarfer yn lle, ac wedyn cael Dydd Llun bant a hyfforddi fel wythnos arferol wedyn.”

Beth oedd y neges?

DP: “Mae’r bois wedi bod yn dda fel grwp, wedi symud ymlaen yn gyflym pan rydym wedi gofyn iddyn nhw wneud. Fe wnaeth Scotty Williams siarad yn dda o ran pa mor rhwystredig ydy hi ac yn anodd i orfod paratoi eich hun yn feddyliol am gêm ac wedyn yn gweld y gêm yn cael ei ganslo ar y funud olaf, ond pan mae’r amser yn iawn bydd y bois yn barod. “

Pa mor anodd fydd hi i aildrefnu’r gemau yma yn hwyrach yn y tymor?

DP: “Na gyd allwn ni wneud yw paratoi bob wythnos. Mae llawer o ansicrwydd ar hyn o bryd, ond na gyd allwn ni wneud yw rheoli’r wythnos sy’n dod. Dyna’r unig ffordd i ni paratoi wrth i gymaint o ansicrwydd fod am sut fydd y gynghrair yn disgwyl erbyn diwedd y bloc yma o gemau ar ddiwedd Ionawr.”