Siaradodd Glenn Delaney gyda’r wasg cyn i’w dim wynebu Leinster mewn gem Guinness PRO14 ym Mharc y Scarlets sydd wedi’i aildrefnu. Dyma’r uchafbwyntiau o’r gynhadledd wasg.
Glenn, beth yw’r diweddaraf o ran anafiadau yn y garfan?
GD: “Yn amlwg, fe gafodd Sione ergyd mawr benwythnos diwethaf, ac mae’r dacl wedi cael ei adolygu sawl tro ac mae nifer o sylwadau wedi cael eu gwneud amdano. Fy mhrif bryder yw gofalu bod Sione yn cael ei ofalu amdano. Ar hyn o bryd mae Sione yn dilyn protocol cyfergyd, ond mae nôl ar ei draed ac yn gwenu sydd yn dda i weld.
“Mae Morgan Jones yn ôl a Dan Davis hefyd sy’n ddefnyddiol iawn wrth i bedwar chwaraewr ochr agored fod mas penwythnos diwethaf gydag anafiadau. Hyfryd i weld Tyler Morgan yn ôl hefyd.
“Mae gan Lewis Rawlins tua mis a hanner arall i fynd cyn iddo ddod ‘nôl yn dilyn llawdriniaeth ar ei wddf. Hoffwn ei weld yn ôl mor gynted ag sy’n bosib.
“Mae’r bois cafodd eu sôn am wythnos diwethaf yn dal i ddilyn protocolau cyfergyd.”
Beth oedd yr ymateb yn ymarferion wythnos yma?
GD: “Roedd yr ymateb yn ddisgwyliedig. Mae’r grŵp wedi newid ychydig o’r ochr wnaeth chwarae ar nos Wener. Ar y cyfan, mae’r nod yr un peth, rydym yn disgwyl i wella bob dydd. Rydym wedi cael sawl diwrnod da.
“Beth oedd yn rhwystredig oedd fe wnaethom greu saith cyfle i sgori gais a heb gymryd un ohonom. Wrth ddisgwyl ar y gwagle crëwyd ar yr ochrau, roedd Caerdydd yn dynn ar y llinell amddiffynnol, ac os oedd y cyfathrebiad cywir yn cael eu gwneud ar y cae ynghyd pasio da, fe allwn wedi rhedeg i lawr y 30 metr. Dyna beth rydym yn ceisio creu gyda’r ymosodiad. Rhaid i ni fynd trwy pam nad ydyn yn cael y bel i lawr i’r rhan yna o’r cae.
“Roedd hefyd gennym nifer o gyfleoedd i yrru o bum metr allan. I beidio cyflawni yn ystod y cyfleoedd yna mae’n deimlad rhwystredig iawn achos roedd yr holl waith wedi cael eu gwneud lan at y foment honno.
Ydy eich ffurf yn bryder wrth ddisgwyl ymlaen at wynebu’r pencampwyr?
GD: “Wrth ddisgwyl yn ôl at gemau Connacht, Ulster ac wedyn Caerfaddon cyn Nadolig, roedd y tîm yn chwarae’r fath o rygbi roeddwn eisiau. Roedd y darbiau ychydig yn ddigyswllt. Mae hyn yn gyfle i ni adnewyddu, ailgychwyn a mynd nôl i ein chwarae blaenorol.
“Mae Leinster yn amddiffyn yn mewn ffordd wahanol i Gaerdydd; mae gennym gynllun i ddefnyddio a bydd cyfleoedd i fois sydd heb chwarae yn ystod yr wythnosau diwethaf. Bydd hynny yn dod ac egni a chyffro i’r grŵp.
“Wrth chwarae Leinster mae rhaid cadw cystadlu er mwyn ffeindio cyfleoedd i fanteisio. Leinster ydy’r tim i ddilyn ers sawl blwyddyn ac rydym yn ywybodol o hynny, mae ganddyn nhw digon o ddyfnder. Mae’n gyfle i ni geisio cystadlu yn erbyn y gorau ac rydym yn edrych ymlaen at hynny.”
Oes pwysau arnoch chi i roi perfformiad da?
GD: “Mae gwastad pwysau ar bawb. Rwy’n deall y rhwystredigaeth, mae’n rhan o’r gêm. Hoffwn chwarae’r fath o rygbi mae’r cefnogwyr eisiau gweld ac fe fyddwn yn gweithio’n galed i gyflawni hynny. Os oedd un neu ddau o’r pasiau o’r gêm ddiwethaf wedi cyrraedd yn well, fyddai’r gêm honno wedi gorffen yn gwbl wahanol. Rwy’n croesawu’r holl feirniadaeth a wnâi barhau i fod yn onest.
“Y peth caletaf ar hyn o bryd ydy chwarae mewn stadiwm wag. Heb yr angerdd o’r cefnogwyr yn y seddle mae’n deimlad gwbl od i ni gyd. Rydym yn teimlo’r digysylltiad rhwng y cefnogwyr a ni ar hyn o bryd. Mae’r bois fel arfer yn manteisio ar yr awyrgylch o’u hamgylch a dyna beth rydym yn caru am y lle yma, fel hyfforddwyr rydym yn buddio o hynny hefyd.”