Os ydych yn dod i’r gêm Ddydd Sadwrn yn erbyn Connacht ym Mharc y Scarlets dyma beth sydd angen i chi wybod
Ydy storm Eunice wedi effeithio unrhyw agwedd o’r gêm?
Ar hyn o bryd, does dim newidiadau i’r trefniadau oherwydd y storm, ond rydym yn annog i gefnogwyr i drafeulu’n ddiogel. Cysylltwch â’ch trefnwyr teithio ar gyfer y newyddion diweddaraf ar drafnidiaeth cyhoeddus.
Oes angen Pas COVID GIG i ddod i’r stadiwm?
Yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymu, NID OES ANGEN pas COVID i fynychu’r gêm. Rydym yn annod pob cefnogwr i ddilyn y canllawiau er mwyn i bawb allu fwynhau’r gêm yn ddiogel.
Os dwi’n teimlo’n anhwylus, gallai ddod i’r gêm?
Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, gan gynnwys tymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu golli blas neu arogl ni ddylech fynychu’r gêm.
Gallai brynu tocynnau ar y diwrnod?
Oes. Bydd y Swyddfa Docynnau ar agor o 9yb tan hanner amser.
Ydy siop y clwb ar agor?
Ydy, bydd y siop ar agor o 10yb nes y gic gyntaf ac am 45 munud ar ôl y chwiban olaf.
Ble allai barcio?
Mae parcio cyhoeddus ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Parc Trostre. Mae’n costi £5 y car ac rydych yn talu ar y gât sydd ar agor o 4:30yp.
Pryd mae gatiau’r stadiwm yn agor?
Bydd lletygarwch ar agor o 5:30yh, mae’r gatiau’n agor i’r cyhoedd o 6:30yh.
Oes bws wennol?
Oes, mae bws wennol ar gael am y gêm hon.
Dyma’r manylion
Ydy kiosks bwyd a diod ar agor?
Ydy. Bydd hefyd gwasanaeth ‘click and collect’ trwy’r app newydd. Dyma’r linc i’r app
South Stand
https://goodeats.io/South1Kiosk – Cwm Farm South Food Kiosk
https://goodeats.io/Scarlets-S2 – South Beer Kiosk
https://goodeats.io/Scarlets-S3 – South Beer Kiosk
https://goodeats.io/Scarlets-S4 – Crazie South Food Kiosk
North Stand & Terrace
https://goodeats.io/North1Kiosk – North Beer Kiosk
https://goodeats.io/North2Kiosk – North Food Kiosk
https://goodeats.io/North5Kiosk North Beer Kiosks
West Stand
https://goodeats.io/Scarletswestbeer – West Beer Kiosk
https://goodeats.io/WestFood – Crazie West Food Kiosk
Ydy pentref y cefnogwyr ar agor?
Bydd Pentre’r Cefnogwyr ar agor o 5:30yh. Bydd y bar a stondynau bwyd ar agor a bydd rygbi tag hefyd.
Beth am y bar Guinness?
Bydd y Bar Guinness (yn Stand y Dwyrain) ar agor o 5:30yp gyda seddi tu allan yn unig.
A fydd rygbi tag hanner amser?
Byddwn yn croesawu Clybiau rygbi Hendy-gwyn, Aberteifi a Crymych i Barc y Scarlets yfory.