Owens i arwain y Scarlets yn rownd agoriadol PRO14

Kieran Lewis Newyddion

Daw capten y Scarlets Ken Owens yn ôl i’r tîm cychwynol i arwain y Scarlets yn rownd agoriadol y Guinness PRO14 prynhawn Sadwrn.

Fe fydd y Scarlets yn teithio i Stadiwm Kingspan i wynebu Ulster wrth i dymor 2018-19 ddechrau go iawn.

Mae Wayne Pivac wedi enwi tîm cryf ar gyfer y rownd agoriadol er gwaethaf restr hir o anafiadau.

Mae gan Ulster record gref yn Stadiwm Kingspan a’r Scarlets yw’r unig rhanbarth i sicrhau buddugoliaeth yno ers Chwefror 2013, sicrhawyd buddugoliaeth o un pwynt ym mis Chwefror 2016.

Y tîm cartref oedd yn fuddugol yn y pedwar gêm diwethaf rhwng y timau tra bod Ulster wedi ennill y pump gêm diwethaf ar eu tir eu hunain.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd Wayne Pivac; ““Mae’n mynd if od yn her dda, maent mwy na thebyg mewn sefyllfa debyg i ni. Does neb yn disgwyl rygbi perffaith yn y rownd agoriadol.

“Dy’n ni ddim yn disgwyl bod ar ein goray yn y rowndiau agoriadol. Mae’n rhaid amseru’r pethau yma’n iawn a gyda’r anafiadau sy’n ein wynebu ry’n ni’n disgwyl i ni gryfhau wrth i ni fynd i mewn i’r tymor.”

Scarlets;

15 Clayton Blommetjies, 14 Tom Prydie, 13 Jonathan Davies, 12 Kieron Fonotia, 11 Steff Evans, 10 Rhys Patchell, 9 Sam Hidalgo-Clyne, 1 Rob Evans, 2 Ken Owens ©, 3 Werner Kruger, 4 David Bulbring, 5 Steve Cummins, 6 Blade Thomson, 7 James Davies, 8 Josh Macleod

Replacements; 16 Ryan Elias, 17 Phil Price, 18 Simon Gardiner, 19 Ed Kennedy, 20 Dan Davis, 21 Gareth Davies, 22 Dan Jones, 23 Ioan Nicholas

Anafiadau;

Paul Asquith (bol ei goes), Jake Ball (bicep tendon), Will Boyde (ysgwydd), Angus O’Brien (llaw), Uzair Cassiem (bol ei goes), Dylan Evans (ysgwydd), Jonathan Evans (troed), Leigh Halfpenny (gafl), Wyn Jones (bol ei goes), Samson Lee (boch), Johnny McNicholl (boch), Hadleigh Parkes (bys), Lewis Rawlins (ysgwydd), Aaron Shingler (penlin)