Bydd Parc y Scarlets yn cynnal darllediad cyntaf o La Cha Cha, comedi rhamant newydd gan Kevin Allen, cyfarwyddwr Twin Town.
Yn serennu mae Rhys Ifans, Keith Allen, Dougray Scott, Ruby Ashbourne Serkis, Liam Hourican and Melanie Walters o Gavin a Stacey, bydd y premiere yn cael ei gynnal ar ddydd Gwener, Medi’r 10fed, 2021.
Mae yna sawl golyfga anniswgyl gyda ymddangosiadau wrth arwr y Scarlets Phil Bennett a chapten y Llewod Alun Wyn Jones, eicon y Swans Alan Curtis a chyn chwaraewr rhyngwladol James Hook.
Mae La Cha Cha yn gomedi rhamant sy’n seiliedig ar y gymuned a chariad. Wedi’i osod ar Benrhyn Gwyr, dyma’r ffilm i ailgysylltu gyda cherddoriaeth, chwerthiniad a chysylltiadau.
Mae Solti Buttering (Liam Hourican) ar daith i wasgaru llwch ei ddadcu. Gan i bobman fod ar gau, mae’n dod ar draws La Cha Cha, parc gwyliau gyda chymuned llawn cymeriadau sydd wedi ymddeol ac yn byw bywyd i’r eithaf.
Mae’r perchennog ifanc Libby Rees (Ruby Ashbourne Serkis) a’i brawd Damien (Sonny Ashbourne Serkis) yn ffeindio hi’n anodd i gadw’r gymuned i fynd. Ond mae ganddyn nhw gynllun anarferol iawn…
Bydd La Cha Cha yn cael ei ddangos mewn sinemau ar draws Cymru o Fedi’r 17.
I brynu tocynnau cliciwch yma