PÀS COVID GIG – Scarlets v Benetton Hydref 22

Rob Lloyd Newyddion

Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, bydd angen i gefnogwyr Scarlets i gyflwyno pàs Covid y GIG i fynychu ein gêm gartref yn erbyn Benetton Rugby ar Hydref 22.

Ni fydd angen i gefnogwyr sy’n dod i gêm Munster ar Ddydd Sul i gyflwyno pàs, wrth i’r ddefddwriaeth cael ei gyflwyno o Ddydd Llun, Hydref 11. Yn gyfreithiol i gydymffurfio a’r gyfraith bydd hyn yn cynnwys holl gefnogwyr beth bynnag yw eu statws brechu.

Mae hyn yn golygu bydd RHAID i gefnogwyr 18 oed ac i fyny cyflwyno un o’r canlynol er mwyn dod i’r stadiwm:

  • Pàs Covid digidol y GIG
  • Pàs Covid papur y GIG
  • Profi canlyniad negyddol diweddar (lateral flow)

Dywedodd Prif Swyddog Weithredol y Scarlets Phil Morgan: “Mae’r pàs covid wedi’u cyflwyno fel deddfwriaeth i sicrhau bod y bobl sy’n rhan o dorf yn gallu mwynhau’r profiad o fewn amgylchedd diogel ac rydym yn annog ein cefnogwyr i lawrlwytho pás neu i ymgeisio am bás papur mor gynted ag sy’n bosib cyn ein gêm yn erbyn Benetton Rugby ar Hydref 22.”

Sut ydw i’n cael pàs COVID GIG?

Mae cefnogwyr sydd wedi derbyn y ddau brechlyn yn gallu paratoi trwy ymgeisio am eu pàs COVID GIG. Am y gwybodaeth diweddaraf ar sut i gael eich pàs ewch YMA

I gofrestru am eich pàs digidol, mae rhaid bod gennych cerdyn hunaniaeth llun. Os nag oes gennych chi un, bydd rhaid i chi ymgeisio am bàs papur sydd yn gallu cymryd hyd at 10 ddiwrnod gwaith i gyrraedd.

Pàs Covid papur y GIG

Mae cefnogwyr dros 18 oed sydd wedi derbyn y ddau frechlyn, ond heb fynediad i basbort digidol trwy gyfrifiadur, tabled neu smartphone, fe allwch ymgeisio am bàs papur y GIG.

I ymgeisio am bàs papur, ffoniwch 0300 303 5667. Mae’r wasanaeth yma ar gael 7 diwrnod yr wythnos, rhwng 9yb a 5yh. Nad yw GP’s yn gallu darparu’r wasanaeth hon.

Rydym yn awgrymu i gefnogwyr sydd angen defnyddio’r wasanaeth yma i’w wneud mor gynted ag sy’n bosib.

Prawf lateral flow negyddol

Mae rhaid i gefnogwyr dros 18 sydd heb derbyn y ddau brechlyn dangos tystiolaeth o brawf negyddol lateral flow sydd wedi’i wneud 48 awr cyn mynychu Parc y Scarlets.

O fewn y cit LFT, mae arwyddion clîr ar sut i gymryd y prawf. Mae’n hanfodol i gefnogwyr i beidio â ddod a’r prawf i’r stadiwm ond i recordio’r canlyniad ar wefan y GIG.

Pan mae eich canlyniad wedi’i recordio, fe gewch chi neges destun neu e-bost o’r GIG. Bydd hyn yn dystiolaeth i ganiatau mynediad i’r stadiwm. Gallwch archebu profion LFT o wefan y llywodraeth. Maent hefyd ar gael i gasglu o lyfrgelloedd lleol a fferyllfaoedd.