Pecynnau Tocynnau Tymor

Rob Lloyd Newyddion

Ar ôl derbyn adborth gan gefnogwyr am ein pecynnau tocynnau tymor ar gyfer 2020-21, rydym yn hapus i ddarparu ad-daliad credyd pro-rata nawr ar gyfer unrhyw gemau cartref a fydd yn cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig. Bydd yr ad-daliad hwnnw’n mynd i’ch cyfrif ‘E-ticketing’ a gellir ei ddefnyddio ar gyfer prynu tocynnau gêm a thymor yn y dyfodol yn ogystal â bwyd a diodydd a pecynnau lletygarwch.

Gallwch adnewyddu eich tocynnau tymor ar ein gwefan YMA   neu dros y ffôn gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01554 292939.