Pedair cais i’r Scarlets wrth drechu’r Teigrod

Rob Lloyd Newyddion

Fe barhawyd y Scarlets gyda’u perfformiadau serennog yn wrth ennill gêm gyfeillgar 29-24 yn erbyn Leicester Tigers yn Mattioli Woods.

Yr ymwelwyr o Orllewin Cymru ddaeth ar frig erbyn y chwiban olaf gydag nifer o geisiadau yn yr ail hanner gan Steff Evans, Steff Hughes a Ryan Conbeer yn ychwanegu at ymdrech hanner cyntaf Tom Rogers.

Roedd yna gyfle i’r Scarlets sgori fwy, yn enwedig yn ystod y cyfnod agoriadol lle’r oedd y tîm yn dominyddu’r gêm, ond fydd y prif hyfforddwr Dwayne Peel yn fwy na’ hapus gyda’r chwarae a fydd yn hwb enfawr wrth gychwyn Pencampwriaeth Unedig Rygbi yng Nghaeredin ar ddiwedd y mis.

Gydag ochr yn cynnwys 11 chwaraewr rhyngwladol, y Scarlets groesodd am y cais cyntaf yn dilyn pum munud o chwarae.

Cic glyfar gan Sam Costelow draw i’r canolwr Tyler Morgan gyda Kieran Hardy yn tapio’i draw at y llinell gais i agosai ei dîm i groesi.

Wrth i’r pwysau cynyddu Tom Rogers, a ddaeth oddi’r asgell dde, ffeindiodd y cyfle gudio’r bel a ymosod i mewn i gap tynn yn wal amddiffynol y Tigers i yrru drosodd.

Roedd Costelow yn lydan ar y trosiad ac roedd ymateb y Tigers yn gyflym.

Cic gan chwaraewr rhyngwladol Lloegr George Ford welodd y Tigers yn hawlio’r tafliad i mewn a gwthiad cryf gan gapten newydd Ellis Genge i yrru’r ffordd i’r canolwr newydd Matt Scott i groesi at y pyst. Llwyddodd Ford gyda’r trosiad.

Parhaodd y Scarlets i hawlio’r gêm o ran meddiant a tiriogaeth, ond yn rhoi cyfleoedd i’w gwrthwynebwyr ar adegau hanfodol wrth iddyn nhw wthio at y llinell.

Costelow llwyddodd cic gosb ar y i alluogi’r ymwelwyr i arwain y sgôr, ond Ford wnaeth sicrhau bod y tîm cartref ar y blaen ar y hanner o 10-8.

Fe lwyddodd Leicester i ymestyn ei sgôr ar ddechrau’r ail hanner gyda’r bachwr Tom Youngs yn pweru drosodd ar ôl i clo’r Scarlets Tom Price derbyn cerdyn melyn.

Llwyddodd Ford y gic, ond nad oedd y cefnogwyr cartref yn gyfforddus am hir iawn wrth i’r Scarlets taro ddwywaith.

Y rhagorol Johnny McNicholl torodd trwy i gynhyrchu ymosodiad a orffenwyd gan Steff Evans, wedyn Kieran Hardy wnaeth llusgo allan o waelod ryc cyn bwydo i’r eilydd Steff Hughes i groesi.

Jones wnaeth cicio’r ddau i 22-17, ond ar ôl i’r Scarlets methu ailgychwyn y gêm, Tigers wnaeth tanio unwaith eto trwy’r eilydd Nephi Leatigaga.

Fe ddaeth y cwarter olaf yn ddiddorol iawn wrth i eilyddion y ddau ochr ddod ymlaen i’r cae.

Ond nid yna oedd y diwedd i’r Scarlets.

Yr eilydd ar yr asgell Ryan Conbeer ffeindiodd ei gyfle i groesi am ei bedwerydd gais mewn dwy gêm. Jones eto wnaeth llwyddo’r gic i ddod â’r sgôr i 29-24 wrth fynd i mewn i’r 10 munud olaf – gan ddal ymlaen at y fuddugoliaeth i’r chwiban olaf.

Scorers – ceisiadau: T. Rogers, S. Evans, S. Hughes, R. Conbeer. Tros: D. Jones (3). Cic gosb: S. Costelow