Pedwar Scarlet wedi’u dewis ar gyfer gêm agoriadol Cymru d20

Gwenan Newyddion

Pedwar Scarlet wedi’u enwi yn nhîm Ioan Cunningham ar gyfer gêm agoriadol Cymru d20 yn erbyn yr Eidal ar ddydd Sadwrn ym Mharc yr Arfau (8yh).

Sam Costelow a Harri Williams bydd yn cyfuno fel haneri, wrth i Carwyn Tuipulotu wneud ei ymddangosiad cyntaf fel wythwr, a Eddie James wedi’i enwi ar y fainc.

Y chwaraewr rheng ôl i Gaerdydd sydd yn gapten ar yr ochr.

Gyda Cymru heb chwarae ar y lefel yma am bron 15 mis, mae’r prif hyfforddwr Ioan Cunningham yn disgwyl llawer o dân ymysg y bois i ymateb i’r golled yn erbyn yr Eidal yng Ngogledd Cymru llynedd.

“Mae’n grêt i weld y bois yn cael y cyfleoedd yma o’r diwedd,” esboniodd Cunningham. “Nad yw’r bois wedi chwarae am gymaint o amser, bydd rhai camgymeriadau, ond rydym yn derbyn hynny os ydyn nhw’n chwarae eu gorau a gadael popeth ar ycae a dyna’r peth mwyaf i mi ac rwy’n siwr fydd popeth arall yn cwympo mewn i’w le.

“Mae’n dîm a brofiad cymysg gyda rhai yn cael y cyfle am y tro cyntaf sydd yn grêt dwi’n meddwl” ychwanegodd Cunningham.

“Bu llawer o ddadlau dros rai safleoedd a chlod i’r bechgyn, maen nhw wedi rhoi pen tost o ddewis i ni ac dyna beth i ni ei eisiau, yn enwedig mewn safleoedd allweddol ac un peth rydyn ni bob amser wedi glynu wrtho o’r diwrnod cyntaf yw tîm yn gyntaf ac rydyn ni i gyd yn prynu i mewn iddo.

“Cafwyd rhai sgyrsiau anodd gyda chwaraewyr ond yn y pen draw mae pawb yn gyffrous ac yn awyddus i ddechrau’r gystadleuaeth. Rydyn ni’n teimlo bod yr XV a’r fainc rydyn ni wedi’u dewis yn barod i fynd. ”

Cymru d20 v Yr Eidal d20, Parc yr Arfau, Dydd Sadwrn 19 Meh, 8yh

15 Jacob Beetham (Cardiff Rugby); 14 Dan John (Exeter Chiefs), 13 Ioan Evans (Pontypridd), 12 Joe Hawkins (Ospreys), 11 Carrick McDonough (Dragons); 10 Sam Costelow (Scarlets), 9 Harri Williams (Scarlets); 1 Garyn Phillips (Ospreys) 2 Efan Daniel (Cardiff Rugby), 3 Nathan Evans (Cardiff Rugby), 4 Joe Peard (Dragons), 5 Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs), 6 Alex Mann (Cardiff Rugby – Capt), 7 Harri Deaves (Ospreys), 8 Carwyn Tuipulotu (Scarlets).

Reserves: 16 Oliver Burrows (Exeter Chiefs), 17 Theo Bevacqua (Cardiff Rugby), 18 Lewys Jones (Nevers), 19 James Fender (Ospreys), 20 Tristan Davies (Ospreys), 21 Ethan Lloyd (Cardiff Rugby), 22 Will Reed (Dragons), 23 Tom Florence (Ospreys), 24 Morgan Richards (Dragons/Pontypridd). 25 Eddie James (Scarlets), 26 Evan Lloyd (Cardiff Rugby).