Mae prif hyfforddwr dan 20 Cymru Ioan Cunningham wedi enwi’r ochr i wynebu’r Alban ym Mharc yr Arfau nos fory yn rownd derfynol o Bencampwriaeth Chwe Gwlad d20.
Maswr Sam Costelow yw’r unig Scarlet wedi’i enwi yn y XV, wrth i’r mewnwr Harri Williams, canolwr Eddie James a’r prop Zak Giannini, a fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf o’r ymgyrch, wedi’u henwi fel eilyddion.
Mae Cunningham wedi gwneud saith newid i’r ochr a chafodd eu trechu gan Lloegr y tro diwethaf allan.
“I ni am orffen ar nodyn uchel a dyna’r ffocws i ni – dechreuon ni’r ymgyrch gyda buddugoliaeth felly byse hi’n neis i ennill un arall i orffen,” esboniodd.
“Mae newidiadau wedi’i neud yn y grŵp gan fod rhai o’r bois wedi chwarae llawer o rygbi a rhai anafiadau ymysg y bois hefyd.
Gyda hanner o’r garfan dal ar gael am yr ymgyrch y tymor nesaf, mae Cunningham yn credu byse fuddugoliaeth yn erbyn yr Alban yn effaith bositif i’r bois ifanc.
“Gyda sawl un ar gael blwyddyn nesaf, os byddwn yn ennill ar eu gêm olaf dyna beth fydd yn gofiadwy, a fydd hynny’n blatfform da i gychwyn ar flwyddyn nesaf,” ychwanegodd.
Cymru D20 v Yr Alban D20, Parc yr Arfau, Dydd Mawrth Gorffennaf 13eg, CG 8yh (Yn fyw BBC2Wales)
15 Morgan Richards (Dragons/Pontypridd); 14 Carrick McDonough (Dragons), 13 Ioan Evans (Pontypridd), 12 Joe Hawkins (Ospreys), 11 Tom Florence (Ospreys); 10 Sam Costelow (Scarlets), 9 Ethan Lloyd (Cardiff Rugby); 1 Cameron Jones (Ospreys), 2 Efan Daniel (Cardiff Rugby), 3 Nathan Evans (Cardiff Rugby), 4 Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs), 5 Rhys Thomas (Ospreys), 6 Christ Tshiunza (Exeter Chiefs), 7 Alex Mann (Cardiff Rugby – capt), 8 Tristan Davies (Ospreys).
Replacements: 16 Oli Burrows (Exeter Chiefs), 17 Lewys Jones (Nevers), 18 Zak Giannini (Llanelli Wanderers/Scarlets), 19 James Fender (Ospreys), 20 Harri Deaves (Ospreys), 21 Harri Williams (Scarlets), 22 Will Reed (Dragons), 23 Ben Burnell (Cardiff Rugby), 24 Jacob Beetham (Cardiff Rugby), 25 Eddie James (Scarlets), 26 Evan Lloyd (Cardiff Rugby).