Pedwar Scarlets ifanc yng ngharfan ymarfer Cymru 7 bob ochr

Menna Isaac Newyddion

Mae Richie Pugh, prif hyfforddwr Cymru 7 bob ochr wedi enwi’r garfan a fydd yn paratoi ar gyfer Cyfres Saith Bob Ochr Rygbi’r Byd 2018/19.

Mae nifer o chwaraewyr mwyaf addawol rygbi Cymru wedi eu dewis i weithio law yn llaw â’r chwaraewyr craidd, gyda’r rownd agoriadol yn Dubai ar 1af Rhagfyr.

Ymhlith y chwaraewyr addawol y mae’r Scarlets Corey Baldwin, Ryan Conbeer, Dan Davis a Tomi Lewis, ac mae disgwyl iddynt ymddangos mewn twrnamentau penodol yn ystod y tymor.

Dywedodd Pugh bod cael carfan 24-dyn yn mynd i sicrhau bod Cymru’n gystadleuol ar y llwyfan rhyngwladol. “Mae yna edrychiad newydd i’r garfan a lot o gyffro am y Gyfres sydd i ddod.

“Mae cael cyfle i chwarae ar y gyfres yn wych i ddatblygiad chwaraewyr ifanc. Ein bwriad yw cynorthwyp i ddatblygu chwaraewyr rhanbarthol a rhyngwladol y dyfodol.”

.

Chwaraewyr Craidd: Afon Bagshaw, Cai Devine, Joe Jenkins, Owen Jenkins, Jay Jones, Ben Roach, Luke Treharne, Mike Wilson. 

Gleision Caerdydd: Dane Blacker, Corey Howells, Ben Jones, Dafydd Smith. 

Dreigiau: Taine Basham, George Gasson, Joe Goodchild, Will Talbot-Davies.

Gweilch: Callum Carson, Dewi Cross, Dylan Moss, Reuben Morgan-Williams. 

Scarlets: Corey Baldwin, Ryan Conbeer, Dan Davis, Tomi Lewis.