Esboniodd Dwayne Peel am gamgymeriadau yng Nghaeredin wrth i dîm y Scarlets colli o 26-22 yng ngêm agoriadol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Creoedd y Scarlets digon o gyfleoedd yn y brifddinas yn ogystal â sgori tri chais a tri arall wedi’u gwrthod.
Ond yn y pen draw, y gwallau ar adegau tyngedfennol colldd y gêm yn Stadiwm newydd DAM Health.
Dywedodd Peel: “Dechreuon ni yn weddol dda ond siomedig gyda’r camgymeriadau yn enwedig yng nghanol y gêm. Wrth rhoi bant cyfleoedd fe gymerodd Caeredin eu cyfle.
“Dywedais i yn yr ystafell newid ar ôl y gêm bod sawl rheswm am y golled oherwydd hunan disgyblaeth.
“Edrychwn yn ôl ar y gêm, gan fod yn feirniadol o’n hunain ac fe fyddwn yn siomedig o’r gwallau, ond roedd sawl agwedd bositif i gymryd o’r gêm hefyd.
“Roedd sawl agwedd da ynghyd ceisiau da. Dangosom llawer o gymeriad hefyd yn yr ail hanner, roedd y momentwm yna a’r pwysau ond yn anffodus methu croesi’r llinell.
“Fel wedais i, byddwn yn edrych dros y gêm, ond hefyd yn edrych ymlaen at fod gatre nos Wener yn erbyn y Emirates Lions.
Bydd Scarlets yn asesu anaf i ben-glin Tom Phillips yn yr wythnos, a gafodd ei gario oddi’r cae yn yr ail hanner.