Peel yn talu teyrneg i gymeriad Welford Road

Rob Lloyd Newyddion

Talodd Dwayne Peel teyrnged i’r cymeriad dangosodd ei dîm ar ôl brwydro i fuddugoliaeth yn ystod ail hanner frwydrol i hawlio’r gêm gyfeillgar yn erbyn Leicester ar nos Iau.

Yn gynnar yn yr ail hanner roedd y Scarlets tu ôl o 17-8 ar ôl chwarae i lawr i 14 dyn yn dilyn cerdyn melyn i’r chwaraewr ail reng Tom Price.

Ond fe frwydron yn ôl gan sgori tri gais yn yr hanner awr diwethaf i gipio’r fuddugolieth.

“Fe lwyddon ni i aros yn y gêm sydd yn dangos cymeriad da ac fe welsom llawer o bethau rydym wedi gweithio ar yn ein chwarae,” dywedodd Peel.

“Mae angen gwella sawl agwedd o’n chwarae, ac mae hynny i ddisgwyl yn ystod yr adeg yma.

“Roedd gennym llawer o feddiant a tiriogseth yn yr hanner cyntaf, ond gwallau yn eu 22, sef un o’r ardaloedd sydd angen gweithio ar ond ar ôl bod tu ôl o 17-8 fe wnaeth y bois gweithio’n galed i ddod nôl i mewn i’r gêm gyda cheisiau da.”

Fe ddaeth y fuddugoliaeth yn dilyn pedair diwrnod yng ngwersyll yn y gogledd.

Ychwanegodd Peel: “Ro’n i’n hapus i’r bois, maen nhw wedi gweithio’n galed yr wythnos hon ac wedi mwynhau bach o sbri oddi’r cae hefyd. Roedd yr egni dangoson nhw yn dda ac roedd hi’n grêt i orffen y daith gyda buddugoliaeth.”

Fe soniodd Peel am ddychweliad Scott Williams i’r clwb gan chwarae ei gêm cyntaf i’r Scarlets ers 2018.

“Roeddwn yn falch iawn i weld Scott nôl ar y cae. Mae wedi bod yn gyfnod hir iddo, gyda sawl anaf dros y blynyddoedd ac hyd yn oed yn ystod yr haf fe gafodd anaf bach i’w goes. Mae Scott wedi gweithio’n galed i ddod nôl ac roedd wrth ei fodd yn dilyn y gêm.”

Mae paratoadau yn nawr yn troi at gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig, yng Nghaeredin ar ddydd Sadwrn, Medi 25.