PENDERFYNIAD DISGYBLU: Liam Williams

Aadil Mukhtar Newyddion

Mae Liam Williams o’r Scarlets wedi ei wahardd am dair gêm yn dilyn proses farnwrol cynhaliwyd ar Ddydd Mawrth Ionawr 12, ar ôl iddo dderbyn cerdyn coch yn ystod gem rownd 11 o’r Guinness PRO14.

Derbyniodd y chwaraewr cerdyn coch yn ystod gêm yn erbyn Gleision Caerdydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Ionawr 8fed gan y dyfarnwr Craig Evans (URC) dan gyfraith 9.20 (b) – Ni ddylai’r chwaraewr gwneud cysylltiad â’r gwrthwynebydd uwchben yr ysgwyddau.

Roedd y broses farnwrol yn cael ei lywyddu gan Swyddog Barnwrol Siryf Katherine Mackie (SRU). Fe dderbyniodd y chwaraewr ei fod wedi troseddi ac oedd y trosedd yn cyfiawnhau cerdyn coch.

Roedd disgwyl i Liam wynebu gwaharddiad o bedwar gem, ond oherwydd ei fod yn edifeiriol am ei ymddygiad a rhai ffoctorau eraill, cafodd ei waharddiad i ei ostwng i dair wythnos. Mae’r chwaraewr yn colli’r tair gem nesaf os yw’n iach ac ar gael i chwarae.