Mwynhaodd timau D16 Gorllewin a Dwyrain Scarlets perfformiadau addawol yn ystod gemau cynhesu yn erbyn y Gweilch o flaen cystadleuaeth Gradd Oedran WRU blwyddyn yma.
Chwaraeodd tîm D16 Dwyrain Scarlets yn erbyn tîm D16 Gorllewin y Gweilch yn y Gnoll, wrth i dîm D16 Gorllewin Scarlets gwynebu tîm D16 Dwyrain y Gweilch yng Nghlwb Rygbi Dinbych y Pysgod.
Cafodd y gemau yma i chwarae er mwyn cynorthwyo gyda’r dewis ar gyfer y garfan cyn i’r gemau rhanbarthol cychwyn ar Ebrill 6.
Mae’r carfannau wedi dilyn rhaglenni datblygiad ers Ionawr a cafodd y ddau gêm i chwarae ar hyd tair cyfnod 25 munud i sicrhau bod pob chwaraewr yn chwarae am amser digonol cyn penderfynu ar garfan.
Enillodd y ddau dîm Scarlets, tîm y Dwyrain yn ennill o 27-7 a’r Gorllewin o 27-14.