Phil Bennett: Gwasanaeth Coffa

Rob Lloyd Newyddion

Dyma manylion pellach ar gyfer gwasanaeth goffa ein cyn gapten a llywydd y clwb Phil Bennett ym Mharc y Scarlets, a hunodd yn dawel ar Ddydd Sul yn 73 oed.

Bydd y wasanaeth yn cael ei chynnal ar Ddydd Gwener, Mehefin 24 am 11yb ym Mharc y Scarlets yn Llanelli (SA14 9UZ).

Manylion i fynychwyr

  • Mae’r gwasanaeth yn agored i bawb i dalu teyrnged (nad oes angen i chi fod yn ddeiliaid tocyn tymor gyda’r clwb i fynychu).
  • Gallwch fynd i mewn i’r Stand De trwy’r drysau ger y gatiau tro. Mae’r drysau’n agor am 9.30yb.
  • Bydd maes parcio B ar agor (gyferbyn tafarn y Sessile Oak). Bydd yna maes parcio ychwanegol ar y diwrnod hefyd (TATA Steel).
  • Gwahoddwyd i gefnogwyr a’r cyhoedd i wisgo crysau rygbi o’u dewis (e.e Clwb Rygbi Felinfoel, Scarlets, Llanelli, Cymru neu eich clwb lleol) i dalu teyrnged i Phil.
  • Ni fydd y wasanaeth yn cael ei ddarlledu mewn unrhyw ffyrdd.

Gwybodaeth i deulu, ffrindiau a galarwyr gwadd

  • Fe all teulu, ffrindiau a galarwyr gwadd cyrraedd trwy’r prif derbynfa yn y stadiwm.
  • Bydd y derbynfa ar agor o 9:30yb.
  • Cyn i’r gwasanaeth i ddechrau, mae gwahoddiad i deulu, ffrindiau a galarwyr gwadd i ymgynnull yn Lolfa Quinnell.
  • Bydd parcio ar gael yn y brif maes parcio yn y stadiwm i’r gwesteion yma.

Rydym yn argymell i aelodau o’r cyhoedd i gyrraedd o fewn digon o amser cyn i’r gwasanaeth i ddechrau.

Cyhoeddir manylion pellach dros y diwrnodau nesaf.