Pieter Scholtz yn barod i gynrychioli’r Scarlets

Rob Lloyd Newyddion

Mae Pieter Scholtz yn ysu i chwarae ar ôl treulio’r pythefnos diwetha’ mewn cwarantin.

Cyrhaeddodd y prop pen tynn o Dde Affrica mis diwethaf, ond oherwydd canllawiau Covid y llywodraeth, roedd angen iddo hunan ynysu am 14 diwrnod mewn gwesty yn Llanelli.

Er i nifer o garfan y Scarlets gorfod ynysu tan wythnos nesa’, cafodd Pieter y cyfle i gwrdd lan a rhai o’i gyd-chwaraewyr ym Mharc y Scarlets ar Ddydd Llun, ac yn edrych ymlaen at gael chwarae yn y Parc ar ôl seibiant o naw mis ers ei gêm ddiwetha’.

“Mae wedi bod yn gyfnod anodd, dwi ddim yn gyfarwydd ac aros mewn gwesty am gymaint o amser, ond roedd pawb yng ngwesty’r Diplomat yn groesawgar iawn. Dwi wedi bod yn defnyddio’r gym ar nosweithiau, sydd wedi fy nghadw’n brysur”, dywedodd Pieter.

“Dwi wedi bod mewn cysylltiad cyson gyda’r hyfforddwyr, yn siarad â Ben Franks – rhywun dyfais i fyny yn gwylio – am sgrymio, a’r hyfforddwyr cyflyru. Beth mwy gallai ofyn am.

“Fy nghynllun am yr wythnos oedd symud i mewn i fflat gyda rhai o’r bois, ond oherwydd Covid mae hynny wedi bod yn sialens.

“Mae’n hyfryd i fod yma a dod i nabod pawb. Mae pawb wedi fy nghroesawu i Lanelli.

“Fy ngêm ddiwetha’ oedd Mawrth y 14eg, felly dwi wedi bod mas o rygbi am amser hir. Gobeithio gallai fod yn rhan o’r wythnosau sydd i ddod.”

Magwyd yn Kimberley yng Ngogledd Cape, a chwaraewyd yng nghwpan Currie i’r Griquas, Lions a’r Pumas, ac fe ymddangosodd mewn nifer o gemau Super Rugby.

Roedd Pieter yn rhan o garfan y Southern Kings a wnaeth gymryd rhan yn y Guinness PRO14 dros y tymhorau diwetha’, a ddaeth oddi’r fainc i’r tîm o Dde Affrica ar ei ymweliad mwyaf diweddar i Lanelli.

Ar ôl i’r Kings ddatod yn gynharach yn y flwyddyn, roedd angen i Pieter ffeindio clwb newydd i ymuno, ac fe ddaeth y Scarlets i’r amlwg.

“Roedd sawl tîm yn Nhe Affrica wedi dangos diddordeb, ond roedd llawer o ansicrwydd os oes unrhyw rygbi yn mynd i gael i’w chwarae blwyddyn yma oherwydd Covid. Pan ges i’r cyfle i ddod i’r Scarlets roedd dim amheuaeth gen i.”