Pivac i adael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor

Kieran Lewis Newyddion

Ry’n ni’n gallu cadarnhau y bydd y prif hyfforddwr Wayne Pivac yn gadael y Scarlets ar ddiwedd tymor 2018-19 i ddechrau ei waith fel Prif Hyfforddwr Cymru.

Fe fydd Wayne yn cymryd drosodd oddi wrth Warren Gatland, gyda disgwyl iddo adael ei swydd ar ôl 12 mlynedd wrth y llyw. Fe fydd yn aros gyda’r Scarlets tan ddiwedd tymor 2018/19; fe ddaw yn dod o dan gytundeb URC yn swyddogol ym mis Gorffennaf 2019.

“Yn gyntaf, ar ran pawb yn y Scarlets, hoffwn longyfarch Wayne. Fe fydd yn foment balch iawn i ni gyd pan fydd yn cymryd yr awennau fel Prif Hyfforddwr Cymru,” meddai Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol Rygbi’r Scarlets.

“Fe fydd dod o hyd i brif hyfforddwr newydd yn flaenoriaeth i ni dros y misoedd nesaf ac ry’n ni’n ddiolchgar iawn i Wayne ac Undeb Rygbi Cymru am ddiweddariadau cyson trwy gydol y broses gan wneud hynny mewn modd agored a phroffesiynol iawn.

“Dros y bedair mlynedd diwethaf mae Wayne wedi cynorthwyo datblygiad parhaus y Scarlets. Mae bod yn gystadleuol yn y PRO14 ac Ewrop wedi bod yn nodwedd bwysig i ni dros y dair neu bedair mlynedd diwethaf ac fe fydd yn parhau i fod yn bwysig.

“Roedd gyda ni strategaeth blwyddyn, tair blynedd a phum mlynedd; fe all dweud ein bod ni wedi ennill y PRO12 yn 2017 blwyddyn o flaen amser ac mae hynny oherwydd gwaith caled y grwp i’n symud ni i’r cam yna yn gynnar, ond mae hyn yn dangos yr ansawdd sydd gyda ni ym hob adran.

“Fe fydd y tymor nesaf yn un hanfodol bwysig i ni yn y Scarlets gyda’r ffocws ar sicrhau ein bod ni’n adeiladu ar y momentwm a’r llwyddiant o’r tymhorau diwethaf. Ry’n ni eisiau bod mewn sefyllfa hefyd lle byddwn ni’n gweld Wayne yn gadael yma gyda thlws arall.”

“Mae cael deuddeg mis i ddod o hyd i eilydd yn anarferol ym myd chwaraeon proffesiynol ond ry’n ni’n awr yn gallu dechrau’n proses recriwtio manwl gan sicrhau ein bod ni’n dod o hyd i Brif Hyfforddwr gydag uchelgais a dyhead i barhau â’n strategaeth perfformiad rygbi.

“Ry’n ni’n falch iawn o’r amgylchedd sefydliadol sydd gyda ni yma yn y Scarlets ac fe fydd hwn y nein galluogi n ii barhau if od yn gystadleuol ond fe fyddwn ni hefyd mewn safle da iawn i groesawu Prif Hyfforddwr newydd ymhen deuddeg mis.

“Rwy’n gwybod y bydd Wayne yn cytuno, mae gyda ni dîm cryf iawn yma o hyfforddwyr, chwaraewyr a staff tu ôl i’r llenni. Mae yna nifer o bobl wedi cyfrannu i’r llwyddiant o dan arweiniaeth Wayne ac fe fyddan nhw’n parhau i gyfrannu i wthio’r rhanbarth ymlaen i’r tymor nesaf ac ar ô lei ymadawiad. Rwy’n hyderus ein bod ni’n ddigon cryf i barhau i symud ymlaen.”

Mae apwyntiad Wayne i’r rôl yn enghraifft diweddaraf o sut mae pobl yn gwneud y mwyaf o’u gallu gyda’r Scarlets ac mae’n ganlyniad proses dwy flynedd o dan arweiniad Martyn Phillips, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, a’r Cadeirydd Gareth Davies.

Dywedodd Martyn Phillips; “Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Scarlets a’u Cadeirydd Nigel Short am eu cefnogaeth o’r broses.

“Mae gan Wayne a Warren a’u timau hyfforddi, ein chwaraewyr rhyngwladol, y cefnogwyr a phawb yn y Scarlets eglurder a dyw e ddim yn bosib tanamcangyfrif y buddion positif a ddaw o gael amser i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

“Pa hyfforddwr, boed yng Nghymru neu unrhyw le ar draws y byd rygbi, na fyddai’n ysu am y cyfle i ymuno â thîm broffesiynol gyda hanes mor gyfoethog a’r Scarlets.

“Hoffwn feddwl, o ystyried treftadaeth y Scarlets, eu diwylliant, eu cefnogaeth angerddol, eu hanes o lwyddiant ac ansawdd eu carfan y bydd rôl y Prif Hyfforddwr yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd yn rygbi.”