Pivac; “Roedd hi’n noson arbennig i’r Parc,”

vindico Newyddion

Mae prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac wedi arwain y Scarlets i rownd yr wyth olaf Ewropeaidd am y tro cyntaf ers degawd a mwy.

Roedd y fuddugoliaeth dros Toulon ym Mharc y Scarlets nos Sadwrn yn un hanesyddol gyda’r dorf yn llawn nerfau a chyffro trwy gydol i’r eiliad olaf pan chwythodd y dyfarnwr ei chiwban.

Scarlets yw’r trydydd tîm yn unig i gyrraedd rownd yr wyth olaf ar ôl dechreuad mor wael yn y gystadleuaeth.

Ar ôl y gêm dywedodd Wayne Pivac; “Ry’n ni’n falch iawn y wnaethon ni lwyddo amddiffyn fel y gwnaethon ni. Fe wnaethon ni sgori ceisiau da yn yr hanner cyntaf ond roedd yr ail hanner am y gwaith amddiffynol.

“Roedd y dynion mawr yn cadw dod ato ni ac fe wnaeth ein bois ni godi lan a’u bwrw drossod! Mae Byron Hayward yn ddyn hapus iawn ac fe ddylai fod, roedd yr ymdrech amddiffynol yn arwrol!”

Wrth edrych yn ôl ar y llwyddiant o gyrraedd rownd yr wyth olaf aeth Pivac ymlaen i ddweud; “Fe wnaethon ni osod amcanion fel tîm ac yn amlwg roedden ni eisiau bod yn y gemau ail gyfle ac yn ceisio gwneud yn dda yn y PRO14 unwaith eto ond roedden ni hefyd eisiau rhoi’n gorau yn Ewrop. Yn dilyn dechreuad araf a cholli’r ddwy rownd gyntaf mae wedi bod yn ymdrech arbennig i ennill y gemau eraill!

“Mae heno yn noson arbennig i’r Parc, gobeithio y nawr y daw mwy a mwy o bobl i’n cefnogi. Roedd hi’n bwysig i’r dyfodol ein bod ni’n sicrhau canlyniad heno. Mae’n ddarn bach o hanes i’r tîm yma, ry’n ni eisiau creu ein hanes ein hunain ac mae’r bois yn gweithio’n galed tuag at hynny. Ry’n ni’n falch iawn!”

Fe fydd yn rhaid i’r Scarlets aros am ganlyniadau eraill cyn gweld os oes gêm gartref yn ei hwynebu; “Mae’n rhaid i rhai o’r gemau fynd o’n plaid ni. Wrth beidio a sicrhau’r pwynt bonws heno mae’n rhaid i ni aros am ganlyniadau eraill. Fe fyddai’r bois yn mwynhau chwarae adref ond ey’n ni’n hapus iawn bod yn y cwarteri!”