Pivac yn bles gyda chanlyniadau’r wyl

vindico Newyddion

Sgoriwyd saith cais gan y Scarlets ym Mharc y Scarlets nos Wener i sicrhau buddugoliaeth dros y Dreigiau ac wrth wneud hyn dod yn gyfartal gyda record y Gleision o’r nifer mwyaf o fuddugoliaethau cartref yn olynol.

Er gwaetha’r fuddugolaieth swmpus, a thri buddugoliaeth dros y rhanbarthau dros yr wyl, mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi datgan bod digon o waith gyda’i dîm i’w wneud er mwyn cystadlu yn erbyn Caerfaddon yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop nos Wener nesaf.

Dywedodd Pivac; “Ry’n ni wedi sicrhau’r tri canlyniad ond dy’n ni ddim wedi chwarae’n dda. Ry’n ni’n cadw’n hunain ar ochr cywir y tabl ond mae yna gemau mawr o’n blaenau.

“Fe wnaethon ni groesi am geisiau da yn yr ail hanner (yn erbyn y Dreigiau) ac redden ni’n bles gyda’r phump pwynt a’r tri-ar-ddeg o’r tri gêm. Ar y cyfan ry’n ni’n hapus.

“Dy’n ni ddim wedi chwarae’r rygbi prydfertha ond casglu’r pwyntiau sy’n bwysig adeg yma’r flwyddyn a sicrhau bod digon o bwyntiau gyda ni i gyrraedd y gemau ail gyfle.

“Roedd cael tri phwynt ar ddeg o’r pymtheg posib dros yr wyl yn bwysig iawn i ni. Ry’n ni’n bles iawn ein bod ni wedi llwyddo cael y pwyntiau yna.”

Aeth ymlaen i ddweud; “Mae gyda ni record da adref. Mae’n bleser cael ennill yma, yn enwedig i’r cefnogwyr ac i’r rheini sy’n ein cefnogi ni. Mae’r bois yn mwynhau chwarae yma ac mae hynny i’w weld yn y record.”

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Caerfaddon ar y Rec nos Wener 12fed Ionawr yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop cyn dychwelyd i Barc y Scarlets i wynebu’r cyn bencampwyr Toulon ar ddydd Sadwrn 20fed Ionawr, cic gyntaf 5.30YH.

Mae tocynnau ar gael nawr o eticketing.co.uk/scarletsrugby