Pleidleisiwch am eich Chwaraewr y Mis am fis Ebrill

Rob Lloyd Newyddion

Mae’n amser am y bleidlais olaf o’r tymor wrth i ni gyhoeddi pwy sydd wedi’u enwebu am wobr Chwaraewr y mis.

Mae gemau mis Ebrill wedi codi ysbryd a torri calonnau, gan ddechrau gyda’r fuddugoliaeth Cwpan Her yn erbyn Clermont Auvergne ym Mharc y Scarlets, gyda’r gemau golledig i ddilyn yn erbyn Glasgow yn y URC, Dreigiau ar Ddydd y Farn a Glasgow eto yn y rownd gynderfynol o flaen torf o 13,077.

Yr enillwyr mor belled yw Sione Kalamafoni, Dane Blacker, Dan Davis a Vaea Fifita.

Dyma’r rhestr fer am wobr mis Ebrill.

Josh Macleod

Mae’r capten wedi dangos ei ddoniau, gan gychwyn ym mhob gêm mis yma. Haeddodd cael ei gynnwys yng ngharfan ymarfer Cwpan y Byd Cymru wythnos yma.

Sam Costelow

Wedi’i enwi fel seren y gêm yn erbyn Clermont, mae Sam wedi parhau i berfformio ac ennill lle yng ngharfan Warren Gatland am yr haf. Pwy all anghofio ei drosiad munud olaf yn erbyn y mawrion Ffrengig?

Steff Evans

Ei gais yn erbyn Glasgow Warriors oedd ei 12fed y tymor yma gydag ond bachwr Glasgow Johnny Mathews wedi croesi am fwy yn y Cwpan Her tymor yma. Yn chwilio am gyfleoedd trwy’r amser, mae Steff wedi bod yn fygythiad enfawr trwy’r ymgyrch.

Joe Roberts

Mae Joe wedi mwynhau serennu trwy’r tymor gan ddangos ei ddoniau eto yn y gêm gynderfynol ym Mharc y Scarlets. Mae’r chwaraewr 22 oed yn parhau i edrych yn gartrefol iawn yn ei safle, gan gael ei enwi am y tro cyntaf yng ngharfan Cymru wythnos yma.

Ewch i’r ddolen HERE i bleidleisio ac am gyfle i ennill taleb Castore gwerth £100.