Pleidleisiwch dros eich Chwaraewr y Mis a gefnogir gan Intersport

Kieran LewisNewyddion

Heddiw rydym yn lansio ein gwobr chwaraewr y mis, a noddir gan Intersport, ac mae gennych chi, y cefnogwyr, gyfle i ddewis yr enillydd.

Bob mis, mewn ymgynghoriad â thîm hyfforddi’r Scarlets, byddwn yn cyflwyno rhestr fer pedwar dyn sydd wedi sefyll allan yn ein gemau yng Nghwpan Guinness PRO14 a Chwpan Her Ewrop.

Y rhai sydd ar y rhestr agoriadol ar ôl pedair rownd gyntaf y PRO14 yn erbyn Connacht, Glasgow, Zebre a Chaeredin yw’r blaenasgellwr Josh Macleod, Rhif 8 Uzair Cassiem, y canolwr Steff Hughes a’r mewnwr Kieran Hardy.

Dyma ychydig o fanylion am eu perfformiadau hyd yn hyn y tymor hwn.

PLEIDLEISIWCH YMA

Josh Macleod  

Roedd Josh yn ysbrydoliaeth yn y fuddugoliaeth wlyb dros Connacht yn rownd un, gan roi newid enfawr yn yr amddiffyniad a hawlio trosiant hanfodol ar gyfer gwobr seren-y-gêm haeddiannol. Fe groesodd am un o wyth cais y Scarlets yn y fuddugoliaeth dros Zebre.

Uzair Cassiem

Seren y gêm yn y fuddugoliaeth dros Glasgow yn Scotstoun, mae Rhif 8 o Dde Affrica wedi cario mwy nag unrhyw chwaraewr yn y PRO14 dros y pedair rownd agoriadol. Uzair hefyd yw’r Scarlet sy’n arwain y linell ymlaen ac ar frig y siartiau taclo.

Steff Hughes

Mae’r canolwr wedi ffynnu ar gyfrifoldeb o fod yn gapten ac wedi cynhyrchu rhai cynorthwywyr syfrdanol ar hyd y ffordd. Fe wnaeth ei gic a phas ffug anfon Paul Asquith drosodd am sgôr dyngedfennol yn erbyn Connacht ac fe wnaeth cwpl o giciau bach i baratoi’r ffordd ar gyfer ceisiau i Ryan Conbeer a Johnny McNicholl yn erbyn Zebre. Mae Steff hefyd yn drydydd yn rhestr y Scarlets am nifer o gariau dros y tymor hwn.

Kieran Hardy

Mae’r mewnwr ar dân wedi codi lle adawodd y tymor diwethaf, gan groesi am dri chais mewn pedair gêm. Gosododd Kieran y Scarlets ar eu ffordd i fuddugoliaeth yn Glasgow gyda sgôr ail hanner hollbwysig ac yna ychwanegu dau arall mewn arddangosfa seren-o’r-gêm yn erbyn Zebre.

Cliciwch ar lun y chwaraewr i wneud eich dewis ar gyfer Chwaraewr y Mis Intersport cyn i’r pleidleisio gau ddydd Sadwrn, Tachwedd 2il am hanner dydd.