Popeth sydd angen i chi wybod os ydych chi’n dod i’r gêm yn erbyn Benetton

Rob LloydNewyddion

Os ydych yn dod i’r gêm Ddydd Gwener yn erbyn Benetton ym Mharc y Scarlets dyma beth sydd angen i chi wybod

Oes angen pás COVID y GIG arnai i ddod i’r gêm?

Gan ddilyn deddfwriaeth y Llywodraeth, mae RHAID i bawb dros 18 gael pás COVID. Gallwch lawrlwytho’r pás COVID trwy fynd i’r linc isod

https://gov.wales/get-your-nhs-covid-pass

Y dewis arall i hynny yw dangos canlyniad negyddol o brawf lateral flow diweddar.

Bydd disgwyl i chi ddangos eich pás at brif gatiau’r stadiwm. Cyrrhaeddwch o fewn digon o amser er mwyn osgoi ciwio os gwelwch yn dda. Byddwch yn barod i ddangos eich pás wrth gyrraedd y stadiwm.

Os ydw i wedi derbyn canlyniad positif o Covid-19, beth dylai wneud?

Os ydych wedi dychwelyd prawf COVID-19 positif o fewn 10 diwrnod i ddyddiad y gêm, ni allwch fynychu’r gêm.

Oes angen gwisgo mwgwd?

Rydym yn awgrymu i gefnogwyr gwisgo mwgwd pan tu fewn y ‘concourse’. Rydym yn annog i gefnogwyr ddod â mwgwd i wisgo pan tu fewn y stadiwm, er mwyn dilyn canllawiau ar gyfer llefydd caeedig.

Oes tocynnau ar gael i’w brynu ar y diwrnod?

Oes. Mae’r swyddfa docynnau ar agor o 9yb.

Ydy’r siop ar agor?

Ydy, bydd y siop ar agor o 10yb nes y gic gyntaf ac am 45 munud ar ôl y chwiban olaf.

Ble allai barcio?

Mae parcio cyhoeddus ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Parc Trostre. Mae’n costi £5 y car ac rydych yn talu ar y gât sydd ar agor o 4:30yp.

Pryd mae gatiau’r stadiwm yn agor?

Bydd lletygarwch ar agor o 5:30yh, mae’r gatiau’n agor i’r cyhoedd o 6yh.

Oes bws wennol ar gael?

Oes, mae bws wennol ar gael am y gêm hon.

Dyma’r manylion

Ydy’r ciosg bwyd a diod ar agor?

Ydy. Bydd hefyd gwasanaeth ‘click and collect’ trwy’r app newydd. Dyma’r linc i’r app

South Stand 

https://goodeats.io/South1Kiosk – South Food Kiosk

https://goodeats.io/Scarlets-S2 – South Beer Kiosk

https://goodeats.io/Scarlets-S4 – South Food Kiosks

North Stand & Terrace 

https://goodeats.io/North2Kiosk – North Food Kiosk

https://goodeats.io/North5Kiosk – North Beer Kiosks

West Stand 

https://goodeats.io/Scarletswestbeer – West Beer Kiosk

https://goodeats.io/WestFood – West Food Kiosk

Ydy Pentref y Cefnogwyr ar agor?

Ydy, bydd y ‘barn’ ar agor o 5:30yh. Bydd yna digwyddiadau i blant, stondynau bwyd a bar ar agor yna, ac fydd ein tîm cymunedol yn rhedeg gemau i glybiau ieunctid. Bydd hefyd Ardal Cefnogwyr newydd tu fewn i’r marquee ymarfer tu ôl i’r East Stand, sydd wedi’i drefnu gan Grwp Cefnogwyr y Scarlets.

Beth am y Bar Guinness?

Bydd y Bar Guinness (yn Stand y Dwyrain) ar agor cyn y gêm gyda’r cantores Hannah Beth yn perfformio cyn y gêm ac am awr ar ôl y chwiban olaf.