Os ydych yn dod i’r gêm Pencampwriaeth Rygbi Unedig dydd Gwener yn erbyn Emirates Lions ym Mharc y Scarlets dyma beth sydd angen i chi wybod.
A fydd pellhau cymdeithasol ar waith ar ddiwrnod gêm?
Rydym yn annog i gefnogwyr i ddilyn canllawiau Covid-19 Iechyd Cyhoeddus fel y gall pawb fwynhau’r gêm mewn amgylchedd diogel. Ni fydd canllawiau cadw pellter wrth i stand y De, Gogledd, Gorllewin agor ynghyd teras y Gogledd.
Os ydw i’n teimlo’n sâl, gallai ddod i’r gêm?
Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, gan gynnwys tymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu golli blas neu arogl ni ddylech fynychu’r gêm.
Os ydw i wedi derbyn canlyniad positif o Covid-19, beth dylai wneud?
Os ydych wedi dychwelyd prawf COVID-19 positif o fewn 10 diwrnod i ddyddiad y gêm, ni allwch fynychu’r gêm.
Oes angen gwisgo mwgwd?
Rydym yn cynghori cefnogwyr i wisgo mwgwd yn y concourse dan do. Anogir cefnogwyr yn gryf i ddod â gorchudd wyneb i’w wisgo pan fyddant yn y stadiwm, yn unol ag arweiniad ar gynulliadau mewn lleoedd caeedig.
Oes angen i mi gymryd prawf covid neu dangos pasbort brechlyn?
Rydym yn annod cefnogwyr i gymryd prawf lateral flow, ond nad yw hyn yn angenrheidiol i ddod i mewn i’r stadiwm. Nad oes angen pasbort brechlyn ar gyfer y gêm yma.
Beth os nad ydw i wedi derbyn fy nhocyn tymor?
Dylai deiliaid tocynnau tymor newydd fod wedi derbyn eu cerdyn erbyn bore Gwener. Os ydych chi’n ddeiliad tocyn tymor newydd ac nad ydych wedi derbyn eich cerdyn, ewch i’r swyddfa docynnau mewn digon o amser cyn y gêm a byddwn yn rhoi cerdyn newydd i chi.
Os ydych wedi derbyn cerdyn newydd dyna fydd yr un y bydd angen i chi ei ddefnyddio
Os ydych chi’n ddeiliad tocyn tymor eisoes ac heb dderbyn cerdyn newydd, defnyddiwch eich hen gerdyn i gael mynediad
Oes tocynnau ar gael i’w brynu ar y diwrnod?
Oes. Bydd y Swyddfa Docynnau ar agor o 9yb. Mae’n debygol o fod yn brysur felly sicrhewch eich bod yn cyrroedd o fewn digon o amser cyn y gic gyntaf.
Ydy’r siop ar agor?
Ydy, bydd y siop ar agor o 10yb nes y gic gyntaf ac am 45 munud ar ôl y chwiban olaf.
Ble allai barcio?
Mae parcio cyhoeddus ym Maes Parcio B ar ochr Parc Trostre. Y pris yw £ 5 y car ar y giât ac mae ar agor o 4.30pm.
Pryd mae gatiau’r stadiwm yn agor?
Gall lletygarwch gael mynediad am 5.30pm, mae’r gatiau’n agor i’r cyhoedd am 6.00pm.
Oes shuttle bus i’r gêm?
Oes, mae bws wennol ar gael am y gêm hon.
Dyma’r manylion
Ydy’r ciosg bwyd a diod ar agor?
Ydy. Bydd hefyd gwasanaeth ‘click and collect’ trwy’r app newydd. Dyma’r linc i’r app
South Stand – https://goodeats.io/South1Kiosk – South Food Kiosk
https://goodeats.io/Scarlets-S4 – South Food Kiosk
https://goodeats.io/Scarlets-S2 – South Beer Kiosk
North Stand & Terrace – https://goodeats.io/North2Kiosk – North Food Kiosk
https://goodeats.io/North5Kiosk – North Beer Kioks
West Stand – https://goodeats.io/Scarletswestbeer – West Beer kiosk
https://goodeats.io/WestFood – West food kiosk
Ydy Pentref y Cefnogwyr ar agor?
Ydy, mae’r barn ar agor o 5:30yh. Bydd gweithgareddau i blant, stondinau bwyd a bar.
Beth am y Bar Guinness?
Bydd y Bar Guinness ar agor cyn y gêm gyda’r cantor lleol Steffan Richards yn perfformio ac am awr ar ôl y gêm.