Proses tynnu enwau ar gyfer Cwpan Pencampwyr ar Orffennaf 21

Rob LloydNewyddion

Mae trefniadau ar gyfer rownd derfynol Cwpan Pencampwyr Heineken yn Marseille yn bell yn ei blaen wrth i’r broses tynnu enwau ar gyfer grwpiau pool 2021/22 cychwyn yn Lausanne, Y Swisdr ar ddydd Mercher, Gorffennaf 21 am 12:00 (amseroedd Prydeinig a Gwyddelig).

Bydd y broses, sydd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar wefan HeinekenChampionsCup.com, yn cynnwys Stade Toulousain, a wnaeth gwblhau Cwpan Pencampwyr Heineken a’r TOP 14 yn yr un tymor am yr ail dro yn hanes y clwb, Harlequins, a oedd yn fuddugoliaethus yn rownd derfynol y Gynghrair Gallagher, a phencampwyr y Guinness PRO14, Leinster Rugby.

Bydd 24 o glybiau yn cystadlu am Gwpan Pencampwyr gyda wyth cynrychiolydd o’r Premiership, y PRO14 a’r TOP14 wedi llwyddo i sicrhau ei safleoedd. (Gwelir timau gymwysedig a’u safleoedd isod).

I sicrhau i’r broses tynnu enwau i ddilyn yr un system a’r tymor diwethaf, bydd y clybiau yn cael eu rhestri i mewn i bedwar haen sydd wedi’u trefnu o ran eu safleoedd, cyn cael eu drefnu i mewn i ddau pool o 12 – Pool A a Pool B. Bydd clybiau o’r un gynghrair sydd yn yr un haen ddim yn cael eu rhoi i mewn i’r un pool.

Bydd y clybiau yn y safle cyntaf a’r ail safle o bob gynghrair yn cael eu rhoi i mewn i Tier 1, clybiau yn safle 3 a 4 yn Tier 2, safle 5 a 6 yn Tier 3, ac y clybiau yn safleoedd 7 a 8 yn Tier 4.

Bydd y clybiau Haen 1 a’r Haen 4 sydd wedi’u tynnu yn yr un pwll, ond nad ydyn nhw yn yr un gynghrair, yn chwarae ei gilydd gartref ac i ffwrdd yn ystod cam y pwll, fel y bydd y clybiau Haen 2 a Haen 3 sydd wedi bod wedi eu tynnu yn yr un pwll, ond nad ydyn nhw yn yr un gynghrair.

Bydd y Scarlets wedi wedi’i drefnu i mewn i Tier 3 sydd yn golygu byddwn yn chwarae naill ai Bristol neu Sale Sharks ac naill ai o’r glybiau Ffrenging yn yr ail tier (Racing 92 a Bordeaux-Begles).

Unwaith i’r broses orffen, bydd y clybiau yn y gwybod eu gwrthwynebwyr pool ac bydd EPCR yn gallu cychwyn ar drefniadau gyda cyhoeddiad o ddyddiadau, lleoliadau ac amseroedd pendant i’w gyhoeddi mor gynted ag sy’n bosib.

Bydd y twrnamaint 2021/22 yn cael ei chwarae ar hyd naw penwythnos gyda pedwar rownd o gemau yn y rownd pool yn cychwyn ym mis Rhagfyr pan fydd Stade Tolousain yn brwydro i gadw ei teitl. Bydd y clybiau yn yr wyth safle uchaf yn gymwys i’r rowndiau ‘knockout’ a fydd yn cael ei gario allan ar hyd 16 Rownd,

Timau gymwysedig Cwpan Pencampwyr Heineken 2021/22 

Gallagher Premiership: 1 Harlequins, 2 Exeter Chiefs, 3 Bristol Bears, 4 Sale Sharks, 5 Northampton Saints, 6 Leicester Tigers, 7 Bath Rugby, 8 Wasps

Guinness PRO14: 1 Leinster Rugby, 2 Munster Rugby, 3 Ulster Rugby, 4 Connacht Rugby, 5 Scarlets, 6 Ospreys, 7 Cardiff Rugby, 8 Glasgow Warriors

TOP 14: 1 Stade Toulousain, 2 Stade Rochelais, 3 Racing 92, 4 Union Bordeaux-Bègles, 5 ASM Clermont Auvergne, 6 Stade Français Paris, 7 Castres Olympique, 8 Montpellier Hérault Rugby

Pool Draw tiers

Tier 1: Harlequins, Exeter Chiefs, Leinster Rugby, Munster Rugby, Stade Toulousain, Stade Rochelais

Tier 2: Bristol Bears, Sale Sharks, Ulster Rugby, Connacht Rugby, Racing 92, Union Bordeaux-Bègles

Tier 3: Northampton Saints, Leicester Tigers, Scarlets, Ospreys, ASM Clermont Auvergne, Stade Français Paris

Tier 4: Bath Rugby, Wasps, Cardiff Rugby, Glasgow Warriors, Castres Olympique, Montpellier Hérault Rugby